Aelodau'r Bwrdd

Mike Norman

Example image

Mae Mike yn Gymro Cymraeg o Sir Gaerfyrddin a raddiodd yn 1989 gyda B.A. (Anrh) mewn Cyfrifeg a Chyllid o hen Goleg Polytechnig Cymru cyn mynd i Lundain i gymhwyso fel cyfrifydd ACCA yn y diwydiant gwasanaethau ariannol yn 1992.

Yn ystod y blynyddoedd mae ei yrfa wedi troi o gwmpas ei ddisgyblaeth Cyllid ac mae ei rolau amrywiol yn golygu ei fod yn weithredwr ac arweinydd medrus gyda sylfaen sgiliau eang ar bob agwedd ar y swyddogaeth gyllid, llywodraethu, risg a rheolaeth reoleiddiol, sy’n deillio o brofiad helaeth yn y diwydiant gwasanaethau ariannol sy’n cael ei reoleiddio’n llym.

Rhoddodd ei rolau fel Prif Swyddog Ariannol o 2009 ac yna Brif Swyddog Gweinyddol o 2021, yn swyddfa Llundain BNP Paribas, un o fanciau mwyaf y byd, gyfle iddo arwain mentrau newid trawsnewidiol a chynllunio strategol ar draws strwythur, systemau, rheolaethau a diwylliant.

Mae’n falch o fod wedi grymuso unigolion i ffynnu a llwyddo yn eu gyrfaoedd; mae’n angerddol dros gydraddoldeb ac uniondeb, sef ei werth craidd. Hoff ddyfyniad Mike yw "Chwarae teg yw cydraddoldeb. Mae addysg a chyfleoedd yn hwyluso’r tegwch."

Gwnaeth Mike ymddeol yn gynnar yn 2023 a gwnaeth benderfyniad ymwybodol i ddilyn ei ddiddordebau mewn chwaraeon, addysg a chymdeithas drwy ei bortffolio o rolau fel achubwr bywyd (cynrychiolodd Mike Gymru yn ei ieuenctid), goruchwyliwr arholiadau, dyfarnwr rygbi ac aelod o’r panel disgyblu ar gyfer Undeb Rygbi Sussex.