Cyfarwyddwr Gweithredol Moderneiddio ac Effaith Archwilio

Derwyn Owen

Example image

Derwyn yw’r Cyfarwyddwr Gweithredol Moderneiddio ac Effaith Archwilio.

Fel aelod o’r tîm Gweithredol, mae ganddo brif gyfrifoldeb am arwain ar gyfathrebu, TG, dadansoddeg data, cynllunio ac adrodd (gan gynnwys y cynlluniau blynyddol a 5 mlynedd), archwilio digidol, Newid a Thrawsnewid, arloesi ac arfer da.

Dechreuodd ar yrfa ym maes archwilio cyhoeddus gyda’r Gwasanaeth Archwilio Dosbarth ym 1998 fel hyfforddai. Dros bron i 30 mlynedd, mae wedi ennill profiad archwilio helaeth ar draws amryw sectorau a chyrff cyhoeddus ym maes archwilio cyfrifon ac ym maes archwilio perfformiad. Am 15 mlynedd, roedd yn Gyfarwyddwr Archwilio â phortffolio archwilio eang yn ogystal â chyfrifoldeb am oruchwylio gwaith ar archwilio TG, dadansoddeg data ac archwilio digidol. Daeth yn aelod o ACCA yn 2000 ac mae ganddo radd mewn Cyfrifyddu a Chyllid.

Er iddo fod yn byw yng Nghaerdydd am nifer o flynyddoedd daw yn wreiddiol o gyrion Aberystwyth lle cafodd addysg ddwyieithog.

Chwaraeon yw ei brif ddiddordeb y tu allan i’r gwaith – boed yn bêl-droed, rygbi, criced, athletau.