Recriwtio contractwyr

Ein proses ymgeisio

Bydd yr holl gontractwyr ar ein cronfa ddata wedi cyrraedd y lefel cymhwysedd sy’n ofynnol ar gyfer y rôl fel contractwr neu arbenigwr.

Mae unigolion sy’n gwneud cais i ymuno â’r gronfa ddata yn cael rhyw fath o asesiad. Unwaith y cânt eu derbyn ar y gronfa ddata nid oes rhwymedigaeth ar Swyddfa Archwilio Cymru na’r unigolyn i gynnig neu dderbyn gwaith.

Lle cynigir gwaith, bydd y cyflog rhwng £170 a £250 y dydd a bydd yn seiliedig ar wybodaeth, sgiliau ac arbenigedd yr unigolyn. Mae cyfleoedd ar gael yn ein holl swyddfeydd sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, Abertawe neu Aberegele a bydd y rôl yn golygu ei bod yn ofynnol ichi deithio ledled Cymru.

I gael trafodaeth anffurfiol cysylltwch â’r tîm Adnoddau Dynol ar 02920320543 neu ar Adnoddau.Dynol@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.