Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Yn yr adroddiad hwn ceir trosolwg o’r graddau y mae cynghorau yng Nghymru yn ymateb i’r pwysau ariannol y maent yn eu hwynebu. Mae’n trafod effeithiolrwydd eu cynllunio ariannol, eu dull o wneud penderfyniadau ariannol a’r camau y maent yn eu cymryd i leihau effaith toriadau sylweddol i’r gyllideb. Mae hefyd yn ystyried i ba raddau y mae cynghorau’n deall effaith eu gweithredoedd ac yn amlinellu rhai syniadau cynnar ar oblygiadau Adolygiad o Wariant 2013 i lywodraeth leol yng Nghymru.