Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
The Bwriad System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) yw galluogi staff iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon.
Mae WCCIS yn cael ei ddatblygu i’w ddefnyddio ar draws ystod eang o wasanaethau i oedolion a phlant, gan symud o sefyllfa o systemau lluosog ar wahanol gamau datblygu neu gofnodion papur. Bwriad Llywodraeth Cymru erioed oedd i bob un o’r 22 awdurdod lleol a’r saith bwrdd iechyd weithredu WCCIS.
Er gwaethaf ymdrechion i gyflymu’r broses o weithredu System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru ar draws byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, mae’r rhagolygon ar gyfer defnydd gan bob sefydliad yn dal i fod yn ansicr. Ceir hefyd rai materion pwysig y mae angen eu datrys o hyd, gan gynnwys rhai sy’n ymwneud â sut y mae’r system yn gweithio.
Mae manteision posibl cofnod electronig a rennir ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yn hollol glir; hyd yn oed yn fwy felly o ystyried rhai o’r heriau a gyflwynwyd gan y pandemig COVID-19. Fodd bynnag, mae gweledigaeth uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer WCCIS yn dal i fod ymhell o gael ei gwireddu. Mae angen iddi weithio gyda’r gwahanol sefydliadau dan sylw bellach i ystyried y disgwyliadau ar gyfer gweddill tymor y contract a’r adnoddau a’r ymrwymiad ehangach sydd eu hangen i gefnogi cynnydd.