Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae gofal heb ei drefnu yn cwmpasu unrhyw ofal heb ei gynllunio, gofal brys a gofal argyfwng a ddarperir gan wasanaethau gofal iechyd. Gall gwmpasu amrywiaeth o gyflyrau ond yn ei hanfod mae'n cyfeirio at ofal y mae angen ei ddarparu'n gyflym, neu mewn rhai achosion ar unwaith. 
     
    Fel rhan o lansio'r gwaith hwnnw, rydym wedi cyhoeddi offeryn data a blog cysylltiedig. Mae'r offeryn yn casglu data o bob rhan o'r system gofal heb ei drefnu yng Nghymru ac yn rhoi cipolwg ar sut mae'r system yn ymdopi.  
     

    Gweler ein hofferyn data gofal heb ei drefnu [agorir mewn ffenest newydd].

    Gweler ein blog.

    Beth wnaethom ddod o hyd iddo?

    Mae'r data yn ein hofferyn newydd yn cadarnhau system gofal heb ei drefnu o dan bwysau gwirioneddol, gyda chleifion yn aros yn hir i dderbyn ambiwlans neu gael eu trin mewn adran damweiniau ac achosion brys a chyfraddau absenoldeb staff uchel.

    Ym mis Chwefror 2022, roedd rhai o'r pwyntiau sy'n peri'r pryder mwyaf yn cynnwys:

    • Gwelwyd 58% o'r bobl a oedd yn mynd i adran damweiniau ac achosion brys o fewn pedair awr. Gwelwyd 75% o gleifion o fewn wyth awr gydag 84% yn cael eu gweld o fewn 12 awr.  
    • anfonwyd ambiwlans o fewn wyth munud yn sgil ychydig dros un o bob dau (55%) alwad coch   
    • Ymatebwyd i 95% o alwadau 'ambr 1' o fewn pump awr ac o ran galwadau 'ambr 2' o fewn 12 awr, gyda 469 o bobl ar draws y ddau gategori yn aros dros 12 awr am ymateb. 
    • collodd y gwasanaeth ambiwlans 23,214 awr i oedi wrth drosglwyddo cleifion, y nifer uchaf a gofnodwyd hyd yma. Mae hynny'n cyfateb i gyfartaledd o 827 awr y dydd. 
Centered hero example

Gofal Heb ei Drefnu yng Nghymru

Mae'r offeryn yn casglu data o bob rhan o'r system gofal heb ei drefnu yng Nghymru ac yn rhoi cipolwg ar sut mae'r system yn ymdopi.

View Tool
CAPTCHA