Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae gan y Cyngor ddealltwriaeth gref o'r heriau economaidd sy'n wynebu'r sir. Mae wedi datblygu strategaeth i fynd i'r afael â'r rheini. Mae'r strategaeth honno'n cynnwys gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer dyfodol economi Powys. Mae'r Cyngor yn cydnabod yr angen i symud i ddull mwy rhagweithiol a strategol.

    Roedd y Cyngor yn datblygu ei ddull ar adeg ein hadolygiad. Oherwydd hyn, nid oedd wedi cytuno eto sut y byddai'n goruchwylio'r cyflawniad yn strategol. Nid yw ei fesurau i fonitro llwyddiant ei ddull newydd yn ddigon penodol ac ystyrlon.

    Ceisiodd y Cyngor ymgysylltu â chymunedau lleol a phartneriaid rhanbarthol wrth ddatblygu ei strategaeth. Ond cafodd ymgynghoriad cyhoeddus y Cyngor ymateb isel iawn.

    Nid yw'r Cyngor wedi asesu eto yr effaith bosibl o beidio â chyflawni'n effeithiol yn erbyn ei uchelgeisiau.

CAPTCHA