Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar waith yr arolygiaethau perthnasol yng Nghymru, yn ogystal â gwaith a wnaed ar ran yr Archwilydd Cyffredinol gan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’r adroddiad yn ymdrin â threfniadau Cyngor Sir Ddinbych (y Cyngor) i ddarparu a gwerthuso ei wasanaethau yn 2012-13 a chynllunio gwelliant yn 2013-14 a, chan ystyried y rhain, daw i gasgliad o ran pa un a yw’r Archwilydd Cyffredinol o’r farn y bydd y Cyngor yn gwneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus ar gyfer 2014-15.