Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Fe wnaethom fwrw golwg ar ddull Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan o reoli gwasanaethau canser.
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi gweithio’n dda i reoli galw cynyddol am wasanaethau heb waethygiad sylweddol cyfatebol mewn perfformiad o ran amseroedd aros. Fodd bynnag, nid yw camau gweithredu i wella gwasanaethau canser wedi arwain at welliant parhaus eto. Mae perfformiad yn dal ymhell islaw’r targed o 75%. Yn 2025-26, dim ond 61% o gleifion ddechreuodd driniaeth o fewn 62 o ddiwrnodau. Mae’r perfformiad cyfartalog ar y cyfan yn celu gwahaniaethau eang rhwng gwasanaethau hefyd. Yn arbennig, mae llwybrau wroleg a gastroberfeddol yn tanberfformio.
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cymryd camau i reoli pwysau uniongyrchol. Mae’r rhain yn cynnwys rhedeg clinigau ychwanegol, llenwi swyddi staff gwag, a newid llwybrau gofal. Mae’r camau gweithredu hyn wedi helpu i sefydlogi’r galw yn y tymor byr. Er eu bod wedi gwella capasiti i drin canser y fron a chanser y croen, nid ydynt wedi ymdrin â phroblemau dyfnach o ran capasiti. O ganlyniad, nid yw perfformiad ar y cyfan wedi gwella. Mae’r Bwrdd Iechyd yn disgwyl cyrraedd targedau cenedlaethol erbyn yn hwyr yn 2026-27, ond mae cynnydd ar hyn o bryd yn awgrymu nad yw ar y trywydd iawn.
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cryfhau ei arweinyddiaeth a goruchwyliaeth weithrediadol ar wasanaethau canser. Mae hyn wedi helpu i gynyddu ffocws ar ofal canser. Fodd bynnag, mae bylchau mewn trefniadau adrodd, defnydd cyfyngedig o gudd-wybodaeth, a chraffu gwan gan y Bwrdd a phwyllgorau’n golygu mai araf yw’r cynnydd. Mae’r Bwrdd Iechyd wrthi’n rhagweithiol yn cymryd camau i wella sut y mae’n atal canser ac yn sgrinio ar ei gyfer, ond rydym yn pryderu efallai nad yw graddfa’r mentrau hyn yn ddigon i gael yr effaith ofynnol.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn deall yr heriau y mae’n eu hwynebu. Fodd bynnag, mae ei ddull yn adweithiol yn bennaf yn hytrach na’i fod yn cynllunio rhag blaen. Er ei fod yn gweithio ar ddiweddaru ei strategaeth ganser, nid oes ganddo gynllun gwella eglur, manwl. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anos ymateb i alw cynyddol a chyrraedd targedau triniaeth. Mae hyn yn bryder cynyddol, gan bod costau gwasanaethau canser yn codi’n gyflymach na chwyddiant a bod dim cynllun ariannol tymor canolig eglur.