Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Ar adeg gosod y contractau i'r Bartneriaeth, roedd y Bwrdd Iechyd mewn sefyllfa heriol o orfod rheoli nifer o bractisau gwag ar draws ei boblogaeth breswyl. Mae'r Bartneriaeth wedi rheoli practis yn Llyswyry heb unrhyw bryderon amlwg a hi oedd yr unig gynigydd ar gyfer sawl un o'r contractau. 
    Serch hynny, dylai'r Bwrdd Iechyd fod wedi rhoi mwy o ystyriaeth i’r risg sy'n gysylltiedig ag un Bartneriaeth yn ymgymryd â chymaint o bractisau newydd dros gyfnod byr. Dylai hefyd fod wedi cynnal mwy o wiriadau diwydrwydd dyladwy ar fodel busnes y Bartneriaeth a chraffu’n fanylach ar ei hachosion busnes a'i chynlluniau ariannol. 
    Er nad oes unrhyw dystiolaeth o weithgarwch twyllodrus wedi'i nodi, mae'r problemau a brofwyd gan y Bartneriaeth wedi achosi pryderon ariannol i staff a gyflogir gan y Bartneriaeth. Yn ogystal, yn unol â dulliau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol o gefnogi practisau 'mewn perygl' yn ariannol, cafodd y Bartneriaeth fynediad at dros £1 miliwn o gyllid cynaliadwyedd cyn iddynt drosglwyddo pump1 o'u wyth contract yn ôl i'r Bwrdd Iechyd. 
    Mae'r Bwrdd Iechyd wedi diwygio rhai o'i drefniadau comisiynu oherwydd y digwyddiadau hyn a'r newidiadau i reoliadau caffael. Fodd bynnag, yn ein barn ni, mae angen cryfhau prosesau gosod contract ymhellach i leihau'r risg y bydd digwyddiadau tebyg yn digwydd yn y dyfodol.

CAPTCHA