Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae’r Bwrdd a’i bwyllgorau’n rhedeg yn effeithiol ac yn dryloyw. Mae cyfarfodydd yn cael eu rheoli’n dda, ac mae gwybodaeth yn dal i fod o safon dda. Ceir ymrwymiad parhaus o hyd i glywed gan gleifion a defnyddwyr gwasanaethau ac mae sesiynau crwydro’r Bwrdd wedi datblygu’n gadarnhaol. Fodd bynnag, gallai’r Bwrdd Iechyd wneud mwy i sicrhau bod y lefel o graffu mewn cyfarfodydd yn dal i fod o safon sy’n gyson yn uchel i ymdrin â’r heriau y mae’r Bwrdd Iechyd yn eu hwynebu.
    Mae adroddiadau ar berfformiad yn dal i fod yn dda ac mae trefniadau uwchgyfeirio wedi gweithio’n dda i wasanaethau sydd wedi bod yn ddarostyngedig iddynt. Mae cynhyrchu cynlluniau a strategaethau’n dal i fod yn ymdrech ar y cyd a cheir tystiolaeth bod y Bwrdd Iechyd yn mapio trefniadau gweithio mewn partneriaeth yn fwy effeithiol. Fodd bynnag, byddai o fudd i’r Bwrdd Iechyd sicrhau bod yr Adroddiad Ansawdd Integredig yn cyflwyno naratif cliriach a sicrhau mwy o eglurder ynghylch y cysylltiadau rhwng cynlluniau corfforaethol. Er bod y Bwrdd Iechyd wedi datblygu ei broses rheoli risgiau yn ddiweddar, byddai o fudd adolygu’r trefniadau cyfredol o ran cofrestrau risgiau i sicrhau y gwahaniaethir yn fwy eglur rhwng risgiau strategol a gweithrediadol.
    ae sefyllfa ariannol y Bwrdd Iechyd yn dal i achosi pryder. Rhagwelir diffyg sylweddol ar ddiwedd y flwyddyn 2025-26 ac mae cyflawni cynllun arbedion cyfredol y Bwrdd Iechyd yn dal i fod yn her. Nid oedd y Bwrdd na Llywodraeth Cymru yn gallu cymeradwyo Cynllun Blynyddol y Bwrdd Iechyd oherwydd y sefyllfa ariannol. Mae’r Bwrdd Iechyd yn dal i fod â dealltwriaeth dda am ei bwysau o ran costau ond effeithir ar y newid i fodel gwasanaeth mwy fforddiadwy gan oedi wrth roi’r model trawsnewid ‘Gwell Gyda’n Gilydd’ ar waith oherwydd cymhlethdod a chapasiti o ran adnoddau.

CAPTCHA