Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae’r Adroddiad hwn yn disgrifio’r cynnydd a wnaethom yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2026 o ran cyflawni’r rhaglenni gwaith a chyrraedd targedau’r dangosyddion perfformiad allweddol a nodir yn ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2026-27.

    Y cynnydd yr ydym wedi ei wneud ers mis Ebrill

    Gwnaethom gynnydd da wrth gyflwyno rhaglen gynhwysfawr ac effeithiol o waith archwilio.

    Fe gyflawnom ni chwe allbwn ar ffurf adroddiadau cenedlaethol yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2026. Fe wnaethom hefyd barhau i siapio ein gwaith archwilio perfformiad lleol i ymdrin â’r heriau esblygol a wynebir gan gyrff a archwilir, ac fe gyhoeddom ni 82 o adroddiadau lleol ar ystod eang o destunau.

    Rydym hefyd yn falch i nodi, i raddau helaeth, ein bod wedi wedi cwblhau ein cynllun tair blynedd i glirio ôl-groniadau ar ôl y pandemig yn ein rhaglenni o waith archwilio perfformiad lleol mewn llywodraeth leol ac yn y GIG.

    Un blaenoriaeth allweddol oedd paratoi ar gyfer trosglwyddo a chyflwyno ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol newydd; Yr Adroddiad Interim hwn yw’r cyntaf yng nghyfnod Catherine ac mae’n adrodd ar gynnydd parhaus tuag at gyflawni ein strategaeth 2022-2027.

    Rydym yn ymrwymedig i adeiladu ar y momentwm yma am weddill y flwyddyn, gan ddefnyddio ein safbwynt a’n harbenigedd unigryw i sicrhau pobl bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli’n dda, egluro sut y mae’r arian hwnnw’n cael ei wario, ac ysbrydoli’r sector cyhoeddus i wella.

    Yn hydref 2026, byddwn yn dechrau gwaith ar ddatblygu strategaeth newydd uchelgeisiol i Archwilio Cymru ar gyfer y blynyddoedd nesaf.
     

CAPTCHA