Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Dyma recordiad o sesiwn Paned a Sgwrs gyda Robyn Lovelock, oedd yn gweithio i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar y pryd.
Pan recodwyd y sesin yma, 'Roedd Robyn Lovelock yn Rheolwr Rhaglen yn Uchelgais Gogledd Cymru. Arweiniodd y gwaith o ddatblygu methodoleg sy’n ceisio sicrhau bod datblygiadau’n cael eu hadeiladu’n gynaliadwy, gan weithio mewn partneriaeth ag Arup.
Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn bartneriaeth rhwng chwe awdurdod lleol gogledd Cymru, Grŵp Llandrillo Menai, Coleg Cambria, Bangor a Phrifysgol Wrecsam. Daeth y sefydliadau at ei gilydd mewn partneriaeth i wneud cais am Gynllun Twf Gogledd Cymru a’i chyflwyno, sef pecyn buddsoddi â chyfanswm o £1bn yn economi gogledd Cymru dros 10-15 mlynedd.
Y meysydd twf allweddol yw:
Bwyd-amaeth a thwristiaeth
Gweithgynhyrchu gwerth uchel
Cysylltedd digidol
Tir ac eiddo
Ynni carbon isel
Y nod neu’r cynllun twf yw creu’r amodau ar gyfer economi carbon isel fywiog yng ngogledd Cymru.
Mae Uchelgais Gogledd Cymru hefyd yn ymwybodol iawn o’r angen ar gyfer datblygu economaidd i hefyd fod yn amgylcheddol gynaliadwy yn wyneb yr argyfwng hinsawdd, a bod yn rhaid ystyried cost carbon y buddsoddiad yn yr economi.
Nod y fethodoleg yw hwyluso adeiladu adeiladau a phrosiectau datblygu sy'n arwain at adeiladau sydd ag allyriadau carbon sero net pan fyddant yn weithredol, lleihau allyriadau carbon 40% yn ystod y gwaith adeiladu ac achosi cynnydd o 10% mewn bioamrywiaeth.
Amcan y fethodoleg yw sicrhau bod atebion natur gadarnhaol a charbon isel yn rhan o'r dyluniad o'r camau cynharaf ac nad ydynt yn arwain at yr angen i ailgynllunio ac ôl-osod yn nes ymlaen. Mae hwn yn ganllaw cam wrth gam, gydag asesiadau cynyddol drylwyr ar bob cam o gynllun prosiect.
Mae’r fethodoleg hefyd yn dilyn strwythur dull datblygu achos busnes Trysorlys Ei Fawrhydi, ac yn ategu dull gwerthuso economaidd y Llyfr Gwyrdd.
Er bod y fethodoleg yn dal i fod ar ddechrau’r daith o ran cymhwyso, mae’n gam cadarnhaol ymlaen o ran gwneud allyriadau carbon, defnydd ynni ac effeithiau bioamrywiaeth yn ganolog i ddyluniad datblygiadau newydd.
Mae sesiynau Paned a Sgwrs yn cynnig sesiwn hamddenol ar-lein lle gall cyfranogwyr ddysgu am rywbeth diddorol gyda rhywun diddorol. Mae natur hamddenol y sesiynau yn cynnig cyfle ar gyfer sgwrs a dysgu manwl, yn ogystal â chyfle i gwrdd â phobl newydd.