Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Cynllunio Cyfalaf mewn Llywodraeth Leol

  • Cynllunio cyllideb pobl
  • Yr hyn rydym yn ei wneud

    Bydd yr astudiaeth yn cwmpasu'r trefniadau cynllunio cyfalaf a roddwyd ar waith gan brif gynghorau i gyflawni eu hamcanion llesiant a sicrhau gwerth am arian. Bydd yn cynnwys deall y dystiolaeth a ddefnyddir gan gynghorau wrth lunio cynlluniau cyfalaf, eu dull gweithredu, a'u hystyriaethau ariannol. Bydd hefyd yn ystyried sut mae cynghorau'n cymhwyso dysgu gan eraill ac yn sicrhau bod digon o oruchwyliaeth o drefniadau cynllunio cyfalaf

    Pam rydym yn ei wneud

    Gwariant cyfalaf yw sut mae sefydliadau'n caffael, yn creu neu'n uwchraddio asedau y maent yn berchen arnynt neu y mae ganddynt yr hawl i'w rheoli. Yna caiff yr asedau hyn eu defnyddio gan sefydliad wrth ddarparu a chyflawni amcanion corfforaethol. Mae buddsoddiad cyfalaf gan gynghorau yn faes gwariant sylweddol ond yn gyffredinol nid yw wedi tyfu'n sylweddol mewn termau 'real' ers 2008. Gall buddsoddiad is beri risgiau gwerth am arian sylweddol, megis prosiectau wedi'u gohirio neu eu colli sy'n costio mwy dros amser, oherwydd effaith chwyddiant neu asedau sydd angen eu cynnal a’u cadw yn hytrach na’u gwaredu.

    Pryd fyddwn yn adrodd

    Haf 2025