Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Llety dros dro

  • Dyn digartref yn yr isffordd
  • Beth rydyn ni'n ei wneud

    Astudiaeth o sut mae cynghorau a'u partneriaid yn gweithio i fynd i'r afael â'r galw cynyddol am lety dros dro. Bydd hefyd yn ystyried goblygiadau ariannol presennol ac yn y dyfodol i gynghorau ac yn asesu a oes cyfleoedd i wella gwerth am arian yn narpariaeth cynghorau o lety dros dro.

    Pam rydyn ni'n ei wneu

    Mae’r galw am lety dros dro wedi codi’n aruthrol yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd ein gwaith yn egluro’r gost a’r cynnydd yn y galw am lety dros dro a chynlluniau cynghorau i fynd i’r afael â’r heriau hyn. Byddwn yn rhoi sicrwydd ynghylch sut y caiff arian cyhoeddus ei wario i fynd i’r afael â’r angen am lety dros dro, yn darparu tystiolaeth ynghylch lle mae angen newid, ac yn tynnu sylw at gyfleoedd i wella gwerth am arian.

    Pryd fyddwn ni'n adrodd

    Gwanwyn 2025