Rydym wedi cael sylw yng nghylchgrawn Association for Public Service Excellence

Rydym wedi cael sylw yng nghylchgrawn Association for Public Service Excellence
15 Mai 2023
car under flood water

Rydym yn falch iawn o fod wedi cael sylw yng nghylchgrawn y Gymdeithas Rhagoriaeth Gwasanaethau Cyhoeddus (APSE).

Yn ein herthygl ni mae'r Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton yn sôn am y pum ardal sy'n effeithio ar y sector llifogydd yng Nghymru, a wnaethon ni dynnu sylw yn ein hadroddiad am sut mae rheoli risg llifogydd yn gweithio yng Nghymru.

Mae'n sôn am:

  • Capasiti'r gweithlu
  • Buddsoddiadau Tymor Hir
  • Integreiddio polisi ac arweinyddiaeth ar y cyd
  • Mesur perfformiad a darpariaeth
  • Datblygiad adeiladau

Gallwch ddarllen ein herthygl yng nghylchgrawn APSE [yn agor mewn ffenestr newydd].

Yn ddiweddar, cymerodd un o'n uwch archwilwyr, Seth Newman, ran yn Seminar Lliniaru Llifogydd a Newid Hinsawdd Ar-lein APSE a siaradodd ar y pwnc hwn. Gallwch lawrlwytho'r cyflwyniad o'u gwefan [yn agor mewn ffenest newydd].