Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Gwobr Arloesedd CIPFA ar gyfer Adrodd Ariannol a Thîm Adnoddau Dynol y Flwyddyn
Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi ei henwebu ar gyfer dwy wobr y gwanwyn hwn – ac mae corff gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Arloesedd Cyllid Cyhoeddus CIPFA ac ar gyfer Gwobrau Adnoddau Dynol Cymru.
Mae gwobrau Arloesedd Cyllid Cyhoeddus CIPFA yn cydnabod pobl, nwyddau a gwasanaethau sy’n arddangos rhagoriaeth a gwreiddioldeb yn y maes cyllid cyhoeddus. Cyrhaeddodd Swyddfa Archwilio Cymru y rhestr fer yn y categori ‘Cyflawniad mewn Adrodd Ariannol ac Atebolrwydd’ – sy’n cydnabod y modd arloesol y mae’r sefydliad yn cyflwyno ei Adroddiad Blynyddol a’i Gyfrifon, ynghyd â’i adroddiadau Cynllun Blynyddol, Amcangyfrifon a Chynllun Ffioedd.
Mae tîm Adnoddau Dynol Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn gobeithio cipio gwobr yng Ngwobrau Adnoddau Dynol Cymru ar ôl cyrraedd y rhestr fer ar gyfer ‘Tîm Adnoddau Dynol y Flwyddyn’.
Mae rhestr fer lawn Gwobrau Arloesi Cyllid Cyhoeddus 2018 ar gael ar eu gwefan [agorir mewn ffenest newydd], a chynhelir y digwyddiad yn Llundain ar 25 Ebrill.
Mae rhestr fer lawn ar gyfer Gwobrau Adnoddau Dynol Cymru 2018 ar gael ar wefan y gwobrau [agorir mewn ffenest newydd], a chynhelir y digwyddiad yng Nghaerdydd ar 23 Mawrth.Mae angen gwneud rhagor i leihau'r galw cyffredinol am wasanaethau trwy deilwra gwasanaethu i ddelio â phobl yn gynharach o lawer, yn enwedig o ran addysg, gofal cymdeithasol a gwasanaethau eraill.
Heddiw, dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas: “Mae’r enwebiadau ar gyfer y gwobrau yn newyddion gwych ac maen nhw’n cydnabod y gwaith caled y mae ein cydweithwyr yn ei gyflawni i wneud Swyddfa Archwilio Cymru yn effeithiol ac yn llwyddiannus. Mae’r staff wedi gwneud ymdrech fawr eleni i wneud ein dull o baratoi adroddiadau ariannol yn gyfoes, yn glir ac yn weledol effeithiol. Hefyd, mae ein tîm Adnodau Dynol yn ymroddedig i wneud yn siŵr ein bod yn cynnig lleoliad gwych i weithio ynddo – gan ddenu, cadw a datblygu pobl a fydd yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru drwy fod yn effeithiol o ran ein dulliau archwilio allanol a chraffu.”.