Rydym am gyflogi Uwch Archwilwyr i ymuno â'n tîm.

27 Ebrill 2023
  • Rydym yn chwilio am rywun sy’n frwdfrydig dros wneud gwahaniaeth a sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu rhedeg yn gywir ar gyfer pobl Cymru.

    Rydym am recriwtio uwch archwilwyr i ymuno â'n Grŵp Archwilio Perfformiad yn Archwilio Cymru. Ar hyn o bryd mae gennym swydd barhaol, llawn amser a swydd dymor penodol, llawn amser ar gael yn ein tîm archwilio perfformiad Iechyd.

    Bydd y swyddi hyn yn rhoi cyfle i'r ymgeiswyr llwyddiannus weithio ar amrywiaeth o brosiectau archwilio perfformiad yn y GIG, a hefyd ymgymryd â gwaith archwilio perfformiad mewn rhannau eraill o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.

    Yn ogystal â chyflwyno rhaglen amrywiol o waith archwilio perfformiad, os oes gennych gymhwyster cyfrifyddu perthnasol, hwyrach y byddwn yn ceisio eich defnyddio yn ein gwaith archwilio sy'n seiliedig ar gyfrifon, gan roi cyfle i chi weithio ar draws gwahanol archwiliadau ac mewn gwahanol dimau fel rhan o'ch twf ehangach a'ch datblygiad personol.

    Pam ymuno ag Archwilio Cymru?

    Mae Archwilio Cymru yn lle gweithgar a chyfeillgar i weithio ynddo, gyda diwylliant hynod gefnogol. Rydym yn frwdfrydig am weithio gyda sector cyhoeddus Cymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol.

    Yn Archwilio Cymru rydym yn gofalu am ein pobl ac yn cynnig manteision gweithio hael sy'n darparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith.

    Rydym yn hyblyg - Rydym yn gweithio'n Gallach. Rydym yn cynnig Telerau Rhagorol gan gynnwys wythnos waith 35 awr, a 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (heb gynnwys gwyliau banc cyhoeddus).

    Rydym yn buddsoddi yn ein Pobl ac o blaid datblygiad personol a phroffesiynol. Rydym yn cynnig cyfle i bob gweithiwr ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae ein buddion staff hefyd yn cynnwys cynllun beicio i'r gwaith, gostyngiadau siopa a'r opsiwn i gael cerbyd drwy ein cynllun prydles buddiol ymhlith llawer mwy.

    Rydym yn Falch o gael Achrediad - Rydym yn gyflogwr ‘Working Families’ a ‘Change 100’ balch ac rydym wedi llwydo i gael achrediad Cyflog Byw.

    Os yw'r cyfle hwn yn swnio'n gyffrous i chi, gallwch gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais drwy ein gwefan.