Rydym am gyflogi Swyddog Dadansoddi Data i ymuno â'n tîm.

26 Ionawr 2023
  • Rydym am gyflogi Swyddog Dadansoddi Data sy’n frwdfrydig am raglenni ac arloesi.

    Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad ym myd gwyddor data a dadansoddi data. Rhywun sy'n uwch eu cymhelliant i fod yn rhan o'n tîm Dadansoddi Data egnïol a gwydn sy'n defnyddio dulliau a arweinir gan ddata i drawsnewid y ffordd rydym yn ymgymryd â'n gwaith archwilio.

    Bydd eich gwybodaeth am raglennu R/Python yn disgleirio wrth i chi ymgolli yn natblygiad iteraidd ein prosiectau. Bydd gennych y cymhelliant a'r penderfyniad i weithio'n annibynnol, o fewn y tîm a gyda'n cwsmeriaid i gyflawni yn unol â therfynau amser.

    Mae gwir ddeall anghenion ein cydweithwyr fel cwsmeriaid yn allweddol i lwyddiant ein prosiectau data, felly bydd angen i chi gael sgiliau cwestiynu a gwrando rhagorol i gysylltu â chydweithwyr a chleientiaid o lefelau amrywiol o hynafedd, mewn cyfarfodydd personol, gweithdai a hwylusir, sesiynau hyfforddi a chyflwyniadau.

    Mae delweddu data yn allweddol er mwyn deall y mewnwelediad o fewn ein data felly mae angen rhywun sy’n fedrus wrth adrodd y stori o fewn y data, a rhywun a all ein helpu i ymestyn cyrhaeddiad gwaith trwy gynhyrchu offer data ar gyfer y cyhoedd.

    Mae angen arnom rywun sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth i'r sector cyhoeddus.

    Ydy hyn yn swnio fel chi? Canfuwch fwy am y swydd a sut i wneud cais ar y dudalen we swyddi gwag.

    Pam ymuno ag Archwilio Cymru?

    Mae Archwilio Cymru yn lle gweithgar a chyfeillgar i weithio ynddo, gyda diwylliant hynod gefnogol. Rydym yn frwdfrydig am weithio gyda sector cyhoeddus Cymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol.

    Yn Archwilio Cymru rydym yn gofalu am ein pobl ac yn cynnig manteision gweithio hael sy'n darparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith.

    Rydym yn hyblyg – Rydym yn gweithio'n Gallach. Rydym yn cynnig Telerau Rhagorol gan gynnwys wythnos waith 35 awr, a 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (heb gynnwys gwyliau banc cyhoeddus).

    Rydym yn buddsoddi yn ein Pobl ac o blaid datblygiad personol a phroffesiynol. Rydym yn cynnig cyfle i bob gweithiwr ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae ein buddion staff hefyd yn cynnwys cynllun beicio i'r gwaith, gostyngiadau siopa a'r opsiwn i gael cerbyd drwy ein cynllun prydles buddiol ymhlith llawer mwy.

    Rydym yn Falch o gael Achrediad – Rydym yn gyflogwr ‘Working Families’ a ‘Change 100’ balch ac rydym wedi llwydo i gael achrediad Cyflog Byw.

    Am ragor o fanylion ac i wneud cais [Agorir mewn ffenest newydd]