Rydym am gyflogi Archwilwyr Arweiniol (Cyfrifon) i ymuno â'n tîm.

23 Rhagfyr 2022
  • Rydyn ni'n am recriwtio Archwilwyr Arweiniol (Cyfrifon) cyfnod penodol a pharhaol, gyda swyddi ar gael ledled Cymru; a bydd o leiaf dwy o'r swyddi hyn yn ein rhanbarth yn y Gogledd.

    Ydych chi ar hyn o bryd yn gweithio mewn tîm cyllid ond yn chwilio am her newydd neu'n gweithio o fewn archwilio ond hoffech gael her sector newydd?

    Rydym yn chwilio am bobl sy’n gryf iawn eu cymhelliant i fod yn rhan o’n timau egnïol a chydnerth. Yn bennaf byddwch yn arwain timau wrth ddarparu gwaith archwilio ariannol mewn nifer o gyrff yn y sector cyhoeddus. Efallai y cewch gyfle hefyd i ategu ein gwaith archwilio  gwerth am arian a bod yn rhan o ddarparu prosiectau corfforaethol.

    Ydych chi'n gyfrifydd CCAB cymwys gyda phrofiad o oruchwylio a hyfforddi staff?  Mae profiad o'r sector cyhoeddus yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol, ond byddwch yn chwaraewr tîm ymroddedig, yn awyddus i wella canlyniadau i ddinasyddion Cymru. Byddwch yn hyderus wrth gynnal perchnogaeth o'ch gwaith eich hun a byddwch yn dod â'ch profiad archwilio cyfrifyddu drwy eich achrediad CCAB.

    Mae angen arnom rywun sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth i'r sector cyhoeddus drwy ddoethineb gadarn a sgiliau dadansoddol a chyfathrebu rhagorol.   

    Ydy hyn yn swnio fel chi? Canfuwch fwy am y swydd a sut i wneud cais ar y dudalen we swyddi gwag.

    Pam ymuno ag Archwilio Cymru?

    Mae Archwilio Cymru yn lle gweithgar a chyfeillgar i weithio ynddo, gyda diwylliant hynod gefnogol. Rydym yn frwdfrydig am weithio gyda sector cyhoeddus Cymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol.

    Yn Archwilio Cymru rydym yn gofalu am ein pobl ac yn cynnig manteision gweithio hael sy'n darparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith.

    Rydym yn hyblyg – Rydym yn gweithio'n Gallach. Rydym yn cynnig Telerau Rhagorol gan gynnwys wythnos waith 35 awr, a 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (heb gynnwys gwyliau banc cyhoeddus).

    Rydym yn buddsoddi yn ein Pobl ac o blaid datblygiad personol a phroffesiynol. Rydym yn cynnig cyfle i bob gweithiwr ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae ein buddion staff hefyd yn cynnwys cynllun beicio i'r gwaith, gostyngiadau siopa a'r opsiwn i gael cerbyd drwy ein cynllun prydles buddiol ymhlith llawer mwy.

    Rydym yn Falch o gael Achrediad – Rydym yn gyflogwr ‘Working Families’ a ‘Change 100’ balch ac rydym wedi llwydo i gael achrediad Cyflog Byw.

    Am ragor o fanylion ac i wneud cais [Agorir mewn ffenest newydd]