Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Wrth i ni ddechrau dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn rhan o raglen brentisiaeth gyffrous newydd – Rhaglen Prentisiaeth Cyllid Sector Cyhoeddus Cymru Gyfan. Cyflwynir y rhaglen hon mewn partneriaeth ag aelodau o'r Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid.
Mae'r Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid yn bartneriaeth sydd â'r nod o ddatblygu sgiliau arwain cyllid ledled Cymru. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys sefydliadau fel Archwilio Cymru, GIG Cymru, Llywodraeth Cymru a chyrff a noddir, llywodraeth leol a'r heddlu.
Dyfarnwyd Gwobr Arloesedd Cyllid Cyhoeddus i'r grŵp yn 2017 [yn agor mewn ffenestr newydd] am ei fodel arloesol o hyfforddiant a datblygiad ym maes cyllid i raddedigion, er mwyn hyrwyddo gwerth a phwysigrwydd gyrfa mewn cyllid cyhoeddus. Mae'r grŵp bellach yn awyddus i ddatblygu rhaglen yr un mor arloesol i brentisiaid.
Mae'r rhaglen tair blynedd ar gyfer yr unigolion hynny sydd eisiau dilyn gyrfa ym maes cyllid ac mae'n cynnig hyfforddiant proffesiynol gyda Chymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) o lefel 2 hyd at lefel 4, a hynny tra’u bod yn gweithio mewn corff sector cyhoeddus. Ategir yr hyfforddiant AAT gan hyfforddiant proffesiynol pellach gan gynnwys astudio ar gyfer modiwl cyllid sector cyhoeddus penodedig.
Er y bydd prentisiaid yn cael eu cyflogi gan un o'r sefydliadau partner, agwedd unigryw'r rhaglen hon yw y bydd prentisiaid yn treulio amser gyda chyrff partner eraill ac felly'n profi'r ystod lawn o swyddogaethau cyllid ac ehangder darpariaeth y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd cyfleoedd ar gael o fis Medi 2021, a chyhoeddir rhagor o wybodaeth am y rhaglen newydd a chyffrous hon yn ystod yr wythnosau nesaf.
Bydd Archwilio Cymru yn cymryd rhan yn yr Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau [yn agor mewn ffenestr newydd], dathliad wythnos o hyd o raglenni prentisiaethau, felly os oes gennych unrhyw gwestiynau cyffredinol am ein cynlluniau prentisiaeth neu'r cyfle newydd hwn, ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad #AskAnEmployer yfory, dydd Mawrth 9 Chwefror, rhwng 12 a 2pm, pan fyddwn ar gael ar Twitter (@WalesAudit) [yn agor mewn ffenestr newydd] i drafod y cyfle.