Archwilio Cymru yn dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau

01 Chwefror 2021
  • Nod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yw dathlu'r cyfleoedd ar gyfer rhaglenni prentisiaeth, yn ogystal â'r manteision sydd gan brentisiaethau i gyflogwyr.

    Eleni, cynhelir yr wythnos rhwng 8 a 14 Chwefror ac mae ganddi'r thema 'Adeiladu'r Dyfodol', gan annog cyfranogwyr i rannu eu straeon am ddatblygu sgiliau a gyrfaoedd, yn ogystal â dangos manteision busnes cael rhaglen brentisiaeth ac adeiladu gweithlu sy'n barod ar gyfer y dyfodol.

    Mae'r wythnos hefyd yn edrych ar yr amrywiaeth yn y swyddi sydd ar gael ar gyfer prentisiaethau, gan dynnu sylw at y ffaith eu bod ar agor i bobl o bob oed, nid y rhai sy'n ymadael â’r ysgol yn unig, ac y byddant yn dod â llysgenhadon prentisiaeth, ASau, darparwyr hyfforddiant, prentisiaid, rhieni a chyflogwyr at ei gilydd.

    Bydd Archwilio Cymru yn cymryd rhan yn y dathliad wythnos gyfan i gydnabod gwaith caled ein prentisiaid a'r gwerth y maent yn ei roi i'n sefydliad. Gallwch glywed popeth am brofiadau ein prentisiaid drwy gyfres o erthyglau, pennod podlediad a hanesion personnol.

    Byddwn hefyd yn fyw ar Twitter ddydd Mawrth, 9 Chwefror o 12 i 2 o’r gloch yp i ateb eich cwestiynau ar gyfleoedd prentisiaeth a sut y gall prentisiaethau helpu sefydliadau. Cysylltwch â ni drwy Twitter ar y diwrnod gan ddefnyddio #AskAnEmployer.

    Dilynwch ni ar y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol isod i ymuno yn ein dathliadau.

    Twitter: @WalesAudit [yn agor mewn ffenestr newydd]

    Facebook: @auditwales [yn agor mewn ffenestr newydd]

    Linkedin: Archwilio Cymru [yn agor mewn ffenest newydd]

    Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn: Canllaw Cefnogwyr NAW2021 [yn agor mewn ffenestr newydd].