Rydym wrth ein boddau i gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer ein rhaglen hyfforddi i raddedigion ar agor.
Ydych chi wedi ymrwymo i wella gwasanaethau'r sector cyhoeddus? Ydych chi'n ystyried eich hun fel arweinydd cyllid yn y dyfodol? Yna, efallai mai ein rhaglen ni yw'r un i chi!
Yn Archwilio Cymru, rydym yn cynnig cyfle i raddedigion o'r radd flaenaf sydd wedi'i ariannu'n llawn i hyfforddi fel cyfrifydd siartredig. Fel hyfforddai yn Archwilio Cymru, byddwch yn astudio ar gyfer eich cymhwyster cyfrifeg tra’n teithio o amgylch Cymru yn ymchwilio i sut mae arian y cyhoedd yn cael ei wario, ac a yw'n cael ei wario'n dda.
Mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddinasyddion Cymru, ac fel un o raddedigion Archwilio Cymru, byddwch yn chwarae rhan fawr ynddo ac yn archwiliad dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru. Mae ein cleientiaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, llywodraeth leol a llawer mwy!
Pwy yw Archwilio Cymru?
Ni yw'r corff sy'n archwilio'r sector cyhoeddus annibynnol yng Nghymru; ein swyddogaeth unigryw yw sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda ac i ysbrydoli'r sector cyhoeddus i wella. Mae rhai o'n gwaith cenedlaethol blaenorol wedi edrych ar dlodi tanwydd, COVID-19, digartrefedd a newid yn yr hinsawdd.
Pam Archwilio Cymru?
Rydym yn cymryd dysgu a datblygu ein hyfforddeion o ddifrif, a byddwch yn cael cefnogaeth lawn tra byddwch yn cydbwyso eich astudiaethau â'ch swydd bob dydd fel hyfforddai.
Ac, mae gennym restr drawiadol o fanteision hefyd:
- 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (heb gynnwys gwyliau banc cyhoeddus)
- Pecyn cyflog hael
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Disgowntiau siopa
- Tanysgrifiadau proffesiynol
- Cyfleoedd dysgu a datblygu helaeth, gan gynnwys trwyddedau LinkedIn
Canfuwch fwy am ein rhaglen gyffrous ar ein gwefan.
Dyddiad cau: 29 Ionawr 2023