Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

PODLEDIAD: O 'Ddiffodd tân' i Ffocysu ar y Dyfodol

02 Gorffennaf 2024
  • Gwrandewch ar ein podlediad newydd ar gaffael, 'ymladd tân' a rôl y trydydd sector wrth ymateb i angen lleol.

    Yn y sgwrs hon, mae Kelly Huxley-Roberts, a Rachel Marshall o Sefydliad Banc Lloyds, yn ogystal â Bethan Webber o Cwmpas a Joe Rossiter o'r Sefydliad Materion Cymreig, yn trafod sut mae arian yn symud yng Nghymru.

    Yn ogystal â hyn, mae'r drafodaeth hefyd yn sôn am broblemau defnyddio atebion tymor byr i broblemau hirdymor, effaith yr argyfwng costau byw ar economi Cymru, a sut y gall y trydydd sector a'r sector elusennol arbed arian i'r sector cyhoeddus.

    Gallwch wrando ar y podlediad trwy Soundcloud neu ddarllen y trawsgrifiad a ddarperir.

    Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau gwrando ar hwn ac yn ei ganfod yn llawn gwybodaeth.