Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Nid yw’r argyfwng natur wedi bod yn flaenoriaeth ddigon uchel

04 Mawrth 2025
  • Mae llawer o awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru wedi methu â chydymffurfio â gofynion bioamrywiaeth allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru ei hun mewn un ffordd

    Mae ein hadroddiad diweddaraf yn amlygu amryw feysydd ar gyfer gwella ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried newidiadau i gyfraith amgylcheddol.

    Yn 2015, fe wnaeth Cynllun Gweithredu Adfer Natur (NRAP) Llywodraeth Cymru gydnabod bod Cymru ymhell o gyrraedd nodau bioamrywiaeth cenedlaethol a rhyngwladol. Mae data bellach yn dangos bod bywyd gwyllt yng Nghymru wedi lleihau 20% ar gyfartaledd rhwng 1994 a 2023. Ac roedd oddeutu 1 ymhob 6 rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddifodiant yn 2023.

    Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn amcanu at wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Ymhlith pethau eraill, mae’n gosod dyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau estynedig ar awdurdodau cyhoeddus. Ers hynny mae’r Senedd wedi datgan argyfwng natur ac mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn gwreiddio ei hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wna.

    Fwy nag wyth mlynedd ers i’r ddyletswydd ddod i rym, canfuom fod bron hanner yr awdurdodau cyhoeddus a gwmpaswyd gan ein gwaith heb gydymffurfio â’r gofyniad i baratoi a hefyd cyhoeddi cynllun bioamrywiaeth. Ac mae dulliau cynllunio’n amrywio’n eang. Nid yw oddeutu chwarter yr awdurdodau cyhoeddus erioed wedi llunio adroddiad bioamrywiaeth, a hynny er bod Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau adrodd a thempled dewisol.

    Canfuom hefyd nad yw Llywodraeth Cymru wedi cydymffurfio â’i gofyniad cynllunio hi ei hun, nad yw’n gweithio’n effeithiol i fonitro’r modd y mae awdurdodau cyhoeddus yn cydymffurfio, a’i bod ar hyn o bryd yn methu ag asesu effaith gyffredinol y ddyletswydd ar ddirywiad bioamrywiaeth. Yn y cyfamser, mae gwendidau yn y Ddeddf a’i chanllawiau yn gadael eu cwmpas a’u bwriad yn agored i gael eu dehongli.

    Mae ein hadroddiad yn cydnabod enghreifftiau o ymdrechion i integreiddio uchelgeisiau ar gyfer bioamrywiaeth a natur â pholisïau ehangach. Ac fe ddarparodd awdurdodau cyhoeddus adborth cadarnhaol ar agweddau ar arweinyddiaeth strategol genedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu amryw ffrydiau ariannu sy’n cefnogi camau gweithredu ar fioamrywiaeth. Mae’r rhain yn cynnwys oddeutu £120 miliwn dros y blynyddoedd diwethaf ar gyfer y rhaglenni Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a Rhwydweithiau Natur. Serch hynny, bu llawer llai o ffocws cenedlaethol ar fioamrywiaeth nag ar ddatgarboneiddio.

    Rydym yn amlygu amryw feysydd ar gyfer gwella. Nid ymdriniwyd yn llawn â llawer o’r materion hyn ers iddynt gael eu hamlygu mewn gwerthusiad yn 2021. Maent yn cynnwys ansicrwydd ynghylch pa awdurdodau cyhoeddus a gwmpesir gan y ddyletswydd, a’r angen i gryfhau canllawiau a gwaith monitro Llywodraeth Cymru. Mae ein hargymhellion yn ymwneud yn bennaf â’r ddyletswydd gyfredol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd angen i Lywodraeth Cymru ystyried ei chamau gweithredu ochr yn ochr â’i chynigion i newid cyfraith amgylcheddol.

    ,
    Dylai’r ddyletswydd a nodir yn y Ddeddf fod yn ddatganiad grymus ynglŷn â’r angen i’r holl awdurdodau cyhoeddus gymryd camau gweithredu pendant ar ddirywiad bioamrywiaeth. Ond nid yw bwriadau da ac enghreifftiau o gyllid ar gyfer gweithredu ar fioamrywiaeth yn ddigon. Mae angen i Lywodraeth Cymru ei hun wneud mwy i arwain trwy esiampl, rhoi cymorth i wella, a chymryd diddordeb mwy brwd yn y modd y rhoddir ei deddfwriaeth hi ei hun ar waith ac yn effaith y ddeddfwriaeth honno. Mae ganddi gyfle i wneud yn union hynny wrth iddi ystyried newid i gyfraith amgylcheddol ond bydd angen iddi sicrhau bod gwaith yn y maes hwn yn cael y flaenoriaeth y mae’n ei haeddu er mwyn iddi wrthdroi colli natur ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau

    Gweld mwy