Gwnaeth methiant y Cyngor i gyflawni eu rheolaethau ariannol eu hunain greu amgylchedd y gellid cam-fanteisio arno er mwyn twyllo, yn ôl adroddiad er budd y cyhoedd a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
O dan Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, mae'r Cyngor yn gyfrifol am roi prosesau rheolaeth ariannol a rheolaethau mewnol priodol ar waith. Fodd bynnag, mae'r trefniadau hyn ond yn effeithiol os ydynt yn cael eu gweithredu'n iawn. Pan fo Cynghorau yn methu â gweithredu trefniadau ariannol priodol, mae risg o golled i'r pwrs cyhoeddus, a gwelir hyn yn achos Cyngor Tref Maesteg. Yn ôl ein hadroddiad er budd y cyhoedd, methodd y Cyngor ag arfer safonau gofynnol llywodraethu a rheolaeth ariannol a ddisgwylir gan gyngor tref.
Rhwng Mawrth 2016 a Rhagfyr 2019, fe wnaeth cyn Glerc Cyngor Tref Maesteg dwyllo'r Cyngor o £238,000 - sef hyd at 27% o gyfanswm y gwariant heb fod ar dâl y Cyngor ym mhob blwyddyn ariannol. O fethu â dilyn gweithdrefnau ariannol priodol crëwyd amgylchedd y bu modd i’r cyn Glerc gam-fanteisio arno er mwyn twyllo. Methodd aelodau'r cyngor sy'n gwasanaethu yn ystod cyfnod y cyn Glerc â chraffu'n iawn ar y wybodaeth ariannol a gyflwynwyd gan y cyn Glerc.
Fel rhan o'u trefniadau ariannol a llywodraethu, roedd y Cyngor yn mynnu bod yr aelodau yn llofnodi'r holl sieciau, a dylent fod wedi gwirio pob anfoneb hefyd. Fodd bynnag, methodd aelodau a oedd yn llofnodwyr sieciau â dilyn proses briodol, gan gynnwys arwyddo sieciau gwag, gan felly hwyluso'r twyll a gyflawnwyd gan y cyn Glerc.
Yn ein hadroddiad er budd y cyhoedd daethpwyd o hyd i fethiannau sylweddol eraill gan Gyngor Tref Maesteg hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys methu â sefydlu system archwilio fewnol ddigonol cyn 2019 a methu â chydymffurfio â'r amserlen statudol ar gyfer cyflwyno ei gyfrifon i'w harchwilio. Mae anghysondebau a hepgoriadau sylweddol hefyd yn systemau cyfrifo a chofnodion y Cyngor.
Mae'r adroddiad yn amlinellu sawl argymhelliad i Gyngor Tref Maesteg, gan gynnwys:
- Sicrhau bod ei reolaethau mewnol priodol gan gynnwys awdurdodi taliadau, yn cael eu dilyn gan bob aelod.
- Rhoi craffu priodol ar waith ar gyfer gwaith y Clerc a'r Dirprwy Glerc.
- Gweithredu'r argymhellion a wnaed gan ei archwilydd mewnol yn 2020 a sicrhau bod y prosesau a roddwyd ar waith yn gweithredu'n effeithiol.