Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Er bod y rhaglen wedi ei chael yn anodd ymdopi â brigau cynharach yng nghyfraddau trosglwyddo’r feirws, mae wedi dangos gallu i ddysgu ac esblygu’n gyflym mewn ymateb i’r heriau y mae wedi’u hwynebu.
0 "News"
Mae’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu (POD) wedi bod yn llwyddiannus o ran dod â gwahanol rannau o sector cyhoeddus Cymru, ac asiantaethau eraill, ynghyd i fynd ati’n gyflym i ddatblygu system profi ac olrhain cysylltiadau a hynny gan ddechrau o’r dechrau gan mwyaf ac ar raddfa ddigynsail.
Mae’r rhaglen POD wedi bod yn rhan flaenllaw o ddull Llywodraeth Cymru o gyfyngu ar ymlediad COVID-19. Fel mewn rhannau eraill o’r DU, nid yw’r rhaglen POD ar ei phen ei hun wedi gallu atal ymlediad y feirws yn gyfan gwbl a bu angen iddi gael ei hategu gan gyfyngiadau symud lleol a chenedlaethol. Mae’r adroddiad hwn yn bwrw golwg ar y modd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn ymateb i heriau darparu gwasanaethau POD yng Nghymru mewn rhaglen sydd wedi bod, ac sy’n dal i fod, yn esblygu’n gyflym.
Yng nghamau cynnar y pandemig, roedd capasiti profi yng Nghymru’n annigonol i ymdopi â nifer cynyddol yr achosion o COVID-19. Roedd angen i Gymru ddefnyddio rhwydwaith Labordai Goleudy’r DU a chynyddu’r capasiti mewn labordai yng Nghymru i ymdopi â’r galw am brofion. Ar ôl rhai heriau logistaidd cychwynnol, mae’r system brofi hybrid hon wedi gallu prosesu canlyniadau profion yn gyflym gan mwyaf. Fodd bynnag, mae angen i’r system brofi yng Nghymru barhau i esblygu i sicrhau ei bod yn addas ar gyfer y diben, yn enwedig mewn perthynas â chleifion mewn ysbytai.
Cafodd timau olrhain cysylltiadau eu sefydlu’n llwyddiannus ledled Cymru, gan dynnu ar weithluoedd a oedd yn ehangu’n gyflym ac a oedd yn cael budd o gudd-wybodaeth a gwybodaeth leol. Mae olrhain cysylltiadau wedi perfformio’n dda ar y cyfan, gan gael ei helpu gan gytundeb cydgymorth rhwng rhanbarthau. Fodd bynnag, ar adegau pan oedd y galw’n uchel ledled Cymru gyfan, mae’r system wedi ei chael yn anodd tracio achosion positif a’u cysylltiadau’n gyflym.
Ceir gwybodaeth dda i ddangos yr ystod o wasanaethau a chymorth sydd ar gael i helpu’r cyhoedd i hunanynysu pan fo angen, ond mae ein gwaith wedi canfod ei bod yn anodd gwybod pa mor dda y mae’r elfen “ddiogelu” o’r rhaglen POD yn gweithio’n ymarferol.
Mae’r rhaglen wedi dangos ei bod yn gallu addasu ac esblygu’n gyflym, gan ddysgu gwersi o reoli achosion cynnar a cheisio cyfuno trefniadau sy’n benodol i Gymru â threfniadau ar gyfer y DU gyfan mewn modd effeithiol. Fodd bynnag, bu’n her, gyda swyddogion yn ei disgrifio fel ceisio “dylunio, adeiladu a hedfan awyren i gyd ar yr un pryd”.
Mae ein hadroddiad wedi amlygu nifer o heriau a chyfleoedd allweddol wrth i’r rhaglen POD barhau trwy gydol 2021:
Mae Cymru wedi datblygu gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu gan ddechrau o’r dechrau i raddau helaeth a hynny ar raddfa a chyflymder na welwyd mo’u bath o’r blaen. Mae wedi bod yn arbennig o galonogol gweld pa mor dda y mae partneriaid yn y sector cyhoeddus wedi bod yn cydweithio ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol i gyfuno arbenigedd arbenigol â gwybodaeth leol a gallu i ddysgu’n gyflym ac addasu’r rhaglen wrth i ni fynd drwy’r pandemig. Mae’n bwysig bod y gwersi cadarnhaol yn cael eu dysgu a’u rhoi ar waith yn fwy eang. Bu adegau pan fo’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu wedi cael ei ymestyn i’r eithaf, ond mae wedi ymateb yn dda i’r heriau hyn. Mae angen i’r rhaglen barhau i esblygu, ochr yn ochr â chyflwyno brechlynnau, i sicrhau ei bod yn dal i ganolbwyntio ar gyrraedd achosion positif, a’u cysylltiadau, ac yn cynorthwyo pobl i hunanynysu i gadw’r feirws dan reolaeth.