Mae'r Gwasanaeth Cynllunio yng Nghyngor Sir Powys wedi gweithredu holl argymhellion 2023 yn llawn.
Canolbwyntiodd yr adolygiad hwn ar ymateb y Gwasanaeth Cynllunio i fynd i'r afael â'r argymhellion a nodir yn ein hadroddiad ar gyfer 2023. Nid oedd yr adolygiad hwn yn edrych ar berfformiad y Gwasanaeth Cynllunio na rhinweddau neu benderfyniadau ceisiadau cynllunio unigol.
Ar y cyfan, gwelsom fod y Gwasanaeth Cynllunio wedi ymateb yn gadarnhaol ac yn gyflym i gyflawni newidiadau effeithiol ac o ganlyniad nid oes unrhyw argymhellion pellach wedi'u gwneud.