Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru wedi cael ei chyflwyno ar gyflymder sylweddol gyda phartneriaid lleol, cenedlaethol ac o'r DU yn cydweithio i frechu cyfran sylweddol o boblogaeth Cymru.
Er bod cerrig milltir uniongyrchol y brechlyn wedi'u cyrraedd, mae angen cynllun tymor hwy sy'n gyfuwch â gwybodaeth am y feirws a'r brechlynnau wrth iddi esblygu, ac yn ystyried sut i gynnal gweithlu cydnerth ar gyfer y brechlyn, gyda lefelau da yn ei dderbyn o fewn y gymuned.
Wrth lunio'r adroddiad hwn, cyfraddau brechu Cymru oedd yr uchaf o blith pedair cenedl y DU, ac roedd y cyfraddau hefyd ymhlith yr uchaf drwy'r byd. Mae strategaeth frechu Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymhelliant cryf i yrru'r rhaglen yn ei blaen, ac mae'r holl gerrig milltir wedi'u cyrraedd hyd yma.
Mae'r rhai sydd wedi bod yn ymwneud â gweithredu'r rhaglen wedi gweithio'n dda i sefydlu ystod o fodelau brechu sy'n gwneud y defnydd gorau o'r brechlynnau sydd ar gael, a hefyd yn cynnig cyfleoedd i frechu'n nes at y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae'r gyfradd sy'n derbyn brechlyn yn uchel ar y cyfan, ond ceir pryderon ynghylch y lefelau is ymhlith rhai grwpiau ethnig ac mewn cymunedau difreintiedig, yn ogystal â'r nifer nad ydynt yn cyrraedd apwyntiadau wedi'u trefnu.
Cyflenwad y brechlyn yw'r ffactor pwysicaf sy'n effeithio ar weithrediad y rhaglen, ac mae hwnnw'n ddibynnol ar gyflenwad rhyngwladol. Mae'r stoc sy'n cael ei gadw yng Nghymru yn gyfyngedig, felly gallai achosion o darfu ar y cyflenwad gael effaith ddifrifol ar gyflymder gweithredu'r rhaglen.
Hyd yma, mae staff y gweithlu wedi bod yn gweithio y tu hwnt i'w dyletswydd er mwyn bodloni'r galw am frechlynnau. Bellach mae angen i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru ddatblygu cynllun hirdymor i weithredu'r rhaglen frechu, gan gynnwys modelau cynaliadwy ar gyfer y gweithlu er mwyn ymateb i'r cyflenwad a'r galw wrth i wasanaethau eraill ailgychwyn.
Ceir llawer o wersi i'w dysgu yn sgil y dull cadarnhaol a ddefnyddiwyd i weithredu'r rhaglen frechu hyd yma. Dylid ystyried cymhwyso'r gwersi hyn i strategaethau brechu ehangach, ac i'r broses o gyflawni rhaglenni eraill yn GIG Cymru.
Ar ddiwedd Mai 2021:
Mae Cymru wedi gwneud camau breision gyda'i rhaglen frechu yn erbyn COVID-19. Mae cerrig milltir allweddol ar gyfer grwpiau blaenoriaeth wedi'u cyrraedd, a'r rhaglen yn mynd rhagddi'n dda, gyda chyfran sylweddol o boblogaeth Cymru bellach wedi'u brechu. Dyma gyflawniad aruthrol, ac mae'n tystio i waith caled ac ymroddiad yr holl unigolion a'r sefydliadau fu'n ymwneud â gweithredu'r rhaglen frechu hyd yma. Er hynny, mae'r gwaith ymhell o fod ar ben. Mae angen cynllun tymor hwy sy'n symud y tu hwnt i'r cerrig milltir presennol ac yn ystyried materion o bwys fel gwytnwch y gweithlu brechu, gwybodaeth sy'n datblygu am ddiogelwch brechlynnau, yr angen am ddosau atgyfnerthu, a chynnal cyfraddau derbyn da - yn enwedig yn y grwpiau hynny lle gwelwyd rhywfaint o betruster o ran derbyn brechlyn.