Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae'r Cynllun Blynyddol hwn yn cwmpasu cyfnod llawn 12 mis olaf Adrian fel Archwilydd Cyffredinol ac yn parhau cynnydd tuag at gyflawni ein strategaeth pum mlynedd.
Mae gwerth archwiliad cyhoeddus mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym, yn hanfodol er mwyn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd, gwleidyddion, y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a dylanwadwyr ynghylch a yw arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda. Mae hyn bwysicach byth mewn cyfnod pan mae gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i wynebu pwysau ariannol, galw a gweithlu enfawr.
Mae ein Cynllun Blynyddol, yn ogystal â phennu ein rhaglen waith ar gyfer 2025-26, hefyd yn tynnu sylw at sawl maes blaenoriaeth a fydd yn ategu ein gwaith archwilio a gweithredu’r busnes, sut rydym yn bwriadu eu cyflawni a'r hyn y byddwn yn ei wneud i wella ein dull o fonitro perfformiad.
Mae'r maes mwyaf o'n gwaith yn cynnwys archwilio cyfrifon dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru. Drwy gyfnod pandemig COVID-19, dirywiodd brydlondeb cyflawni’r gwaith hwn. Gan weithio gyda'n cyrff archwiliedig, mae'n cymryd sawl blwyddyn i adfer y rhaglen fawr honno o waith i amserlenni cyn y pandemig, ond rydym yn benderfynol o wneud hynny ac yn hyderus y byddwn yn ei gyflawni. Yn 2025-26, byddwn yn parhau â'r cynnydd a wnaed dros y ddwy flynedd ddiwethaf i ddod â'r dyddiadau cau adrodd ymlaen ar gyfer ein gwaith archwilio cyfrifon. Rydym hefyd yn anelu at welliant ychwanegol yn amseroldeb y gwaith archwilio perfformiad a gyflawnwn mewn cyrff GIG a llywodraeth leol unigol. Gyda llinynnau pwrs y wlad mor dynn, mae’n bwysicach nag erioed cael gwerth am arian o bob punt o wariant cyhoeddus. Yn ein rhaglenni astudiaethau lleol a chenedlaethol, felly, rydym yn anelu at roi ffocws hyd yn oed mwy miniog ar werth am arian trwy ddadansoddiad ariannol a chanlyniadau cryfach.
Bydd y blynyddoedd nesaf yn gweld newid a chyfle sylweddol i Archwilio Cymru. Yn 2026, bydd tymor wyth mlynedd yr Archwilydd Cyffredinol presennol yn dod i ben, a bydd Archwilydd Cyffredinol newydd yn cael ei benodi. Hefyd yn 2026, bydd etholiadau i Senedd estynedig. Mae tirweddau'r sector cyhoeddus yn newid yn barhaus, yn enwedig o ran technolegau newydd, gofynion rheoleiddiol cynyddol, a disgwyliadau cyhoeddus o atebolrwydd y llywodraeth. Mae ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2025-26 yn ein gweld yn paratoi ein hunain ar gyfer y byd esblygol hwnnw. Ni fydd yr un o'r hyn yr ydym yn anelu at ei gyflawni dros y flwyddyn i ddod yn bosibl heb ein timau medrus a brwdfrydig iawn a bydd ategu eu lles, felly, yn parhau i fod ein blaenoriaeth uchaf gan ei fod yn sail i'r cyfan a wnawn.