Mae angen newid systemig os yw llywodraeth Cymru a llywodraeth leol am ateb maint yr her i liniaru tlodi

Mae tlodi wedi bod yn her ers tro yng Nghymru, ond mae'r niferoedd sy’n cael eu heffeithio yn tyfu.
Mae ein hadroddiad yn edrych i helpu cynghorau i wneud gwell defnydd o adnoddau i ategu pobl sydd mewn tlodi.
Nid yw tlodi yng Nghymru yn ffenomen newydd ac mae mynd i'r afael â thlodi, yn enwedig tlodi plant, wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a chynghorau yng Nghymru. Mae’r argyfwng costau byw presennol yn golygu bod mwy o bobl yn cael eu heffeithio ac mae teuluoedd sydd wedi bod yn byw'n gyfforddus yn symud i dlodi am y tro cyntaf. Mae ein hadroddiad yn edrych ar heriau tlodi yng Nghymru a sut mae'r llywodraeth yn ymateb iddynt.
Gwelsom fod llawer o'r ysgogiadau y gellid eu defnyddio i liniaru tlodi y tu allan i reolaeth Cymru. Gwnaeth Llywodraeth Cymru fabwysiadu Strategaeth Tlodi Plant yn 2011, a ddiwygiwyd yn 2015, ond mae hyn wedi dyddio a chafodd y targed i ddileu tlodi plant erbyn 2020 ei atal. Gwelsom fod cynghorau a phartneriaid ynblaenoriaethu gwaith ar dlodi, ond mae'r cymysgedd o ddulliau a thirwedd bartneriaeth gymhleth yn golygu bod uchelgeisiau, ffocws, gweithredoedd, a blaenoriaethu yn amrywio'n fawr.
Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyllid refeniw sylweddol ar gael ond, oherwydd cymhlethdod a natur y materion, nid yw cyfanswm lefel y gwariant yn hysbys, ac nid oes yr un cyngor yn gwybod beth yw maint llawn ei gwariant ar leddfu a mynd i'r afael â thlodi. Mae natur tymor byr rhaglenni grant, gweinyddiaeth rhy gymhleth, gwendidau mewn canllaw a chyfyngiadau grant, a thrafferthion gwario arian yn golygu nad yw arian yn cael yr effaith y gallai. Mae cynghorau'n ei chael hi'n anodd darparu gwaith ataliol oherwydd maint y galw gan bobl mewn argyfwng.
Er hyn, mae llawer o waith da yn digwydd ar lawr gwlad i helpu lleihau effaith tlodi. Cynllunnir ein hargymhellion i ategu gwneud penderfyniadau mewn cynghorau a'u partneriaid a gwella sut maent yn targedu eu gwaith.
Rwy'n cydnabod graddfa’r her o dan sylw y mae tlodi yn ei chyflwyno. Mae'n hanfodol felly bod Llywodraeth Cymru a chynghorau yn gwneud y mwyaf o'u hymdrechion ac yn mynd i'r afael â'r gwendidau a nodwyd yn fy adolygiad i. Mae angen i ni sicrhau bod pob haen o'r llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i helpu pobl mewn angen ac mae fy argymhellion wedi'u targedu at ategu gwelliant.
