Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n dda gyda’r proffesiwn addysg i gyd-ddylunio’r cwricwlwm newydd, ond fe’i datblygwyd i ddechrau heb asesu ei gostau uniongyrchol na’i gostau cyfle.
Mae’n anodd cyfrifo cost diwygio’r cwricwlwm yn gywir; fodd bynnag, mae cyllidebau cyfredol yn awgrymu y gall gwariant uniongyrchol fod ym mhen uchaf yr amcangyfrifon a luniwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2021 neu’n fwy na’r amcangyfrifon hynny.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyflawni rhaglen fawr i ddiwygio addysg dros y degawd diwethaf fwy neu lai, y mae Cwricwlwm newydd i Gymru’n ganolog iddi. Bydd y cwricwlwm yn caniatáu i bob ysgol ddatblygu ei chwricwlwm ei hun mewn modd hyblyg yn ôl anghenion lleol, o fewn rhai terfynau.
Canfu ein hadroddiad na wnaeth Llywodraeth Cymru asesu’r costau uniongyrchol na’r costau cyfle pan ddechreuodd ddatblygu’r cwricwlwm newydd. Yn 2021, amcangyfrifodd fod datblygu’r cwricwlwm newydd wedi costio £159 miliwn rhwng 2015-16 a 2020-21, er ei bod yn cydnabod nad yw’r cyfanswm hwn yn cynnwys rhai costau. Fe ragwelodd gostau uniongyrchol o £198.5 miliwn rhwng 2021-22 a 2030-31 hefyd.
Mae papurau diweddar ar y gyllideb gan Lywodraeth Cymru’n awgrymu bod gwariant yn debygol o fod ym mhen uchaf amcangyfrifon a luniwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2021, neu’n fwy na’r amcangyfrifon hynny. Mae ysgolion hefyd yn wynebu costau cyfle sylweddol, y mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif y byddant yn £263 miliwn rhwng 2021-22 a 2025-26.
Gweithiodd Llywodraeth Cymru’n dda gydag ysgolion i gyd-ddylunio’r cwricwlwm newydd ac adnabod y sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i’w gyflawni, er bod pandemig COVID-19 wedi effeithio ar allu ysgolion i baratoi.
Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newid i’r amserlen ar gyfer rhoi’r cwricwlwm ar waith a oedd yn adlewyrchu’r pwysau y mae ysgolion wedi’u hwynebu. Bydd yr holl ysgolion cynradd yn addysgu’r cwricwlwm newydd o fis Medi 2022. Mae bron i hanner yr ysgolion uwchradd, canol ac arbennig yn bwriadu cyflwyno’r cwricwlwm newydd ym mis Medi 2022.
Er bod y pandemig wedi tarfu, mae wedi arwain at rai newidiadau sydd wedi bod o fudd i ddatblygu’r cwricwlwm. Er enghraifft, fe wnaeth atal y cwricwlwm am y tro yn 2020 alluogi ysgolion i fod yn fwy arbrofol, fe berodd i ysgolion roi blaenoriaeth i iechyd a lles disgyblion, ac mae sgiliau digidol athrawon a disgyblion wedi gwella hefyd.
Cydnabu Llywodraeth Cymru a Cymwysterau Cymru y byddai angen i gymwysterau newid i adlewyrchu’r cwricwlwm newydd. Mae Cymwysterau Cymru wedi gwneud rhai penderfyniadau ynglŷn â ffurf fras cymwysterau TGAU ac mae gwaith manwl ar y gweill ar y rhain a chymwysterau eraill yn barod ar gyfer dyfarnu cymwysterau newydd am y tro cyntaf yn 2026/27.
Gan edrych y tu hwnt i fis Medi 2022, mae risgiau allweddol y mae Llywodraeth Cymru’n effro iddynt ond y bydd angen iddi barhau i’w rheoli’n cynnwys:
Mae ein hadroddiad yn gwneud chwe argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru i helpu i sicrhau bod y Cwricwlwm newydd i Gymru’n cyflawni ei effaith fwriadedig ac yn darparu gwerth am arian.
Mae’r Cwricwlwm newydd i Gymru’n newid sylweddol i ddysgwyr, rhieni, gofalwyr a’r proffesiwn addysg ac, er y gellir deall bod y pandemig wedi effeithio ar yr amserlen a pharatoadau ysgolion, bydd mis Medi 2022 yn garreg filltir bwysig. Mae’r ysbryd y datblygwyd y cwricwlwm ynddo’n dda i’w weld, ond mae angen i waith yn y dyfodol i ddatblygu polisi ar y raddfa hon roi mwy o sylw i gostau tebygol rhoi hynny ar waith i ddarparu ar gyfer asesiad cynharach a llawnach o werth am arian. Mae angen peth gwaith sylweddol o hyd mewn meysydd allweddol i gyflawni manteision llawn diwygio’r cwricwlwm a bydd angen i Lywodraeth Cymru gadw golwg ar gostau parhaus sylweddol y rhaglen ddiwygio i ategu gwaith craffu ehangach.