Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Newid mewn diwylliant a meddylfryd sydd ei angen i roi materion cydraddoldeb wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau
Fe wnaeth ein hadroddiad ganfod nad yw llawer o gyrff cyhoeddus yn defnyddio Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb i'w llawn botensial, yn enwedig o ran hyrwyddo cydraddoldeb a chydlyniant.
Mae Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (Asesiad EG) yn rhan bwysig o'r dull o fynd i'r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru. Mae Asesiadau EG yn helpu gwasanaethau cyhoeddus i gyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i osgoi gwahaniaethu yn y penderfyniadau y maent yn eu gwneud ac i hyrwyddo cyfle cyfartal a chydlyniant. Wedi'i wneud yn dda, mae Asesiadau EG yn fwy na modd i ddangos cydymffurfiaeth ac osgoi heriau cyfreithiol. Maent yn ategu twf meddylfryd a diwylliant sy'n rhoi materion cydraddoldeb wrth wraidd datblygiad polisi a phenderfyniadau.
Daethom o hyd i enghreifftiau o arfer da mewn rhai meysydd o'r broses ond mae ein hadroddiad yn nodi rhai meysydd allweddol i'w gwella. Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch pa fath o bolisïau ac arferion y mae’n rhaid eu hasesu, yn ogystal â'r trefniadau ar gyfer asesu effaith polisïau ac arferion cydweithredol.
Gwelsom hefyd fod Asesiadau EG weithiau'n cael eu cynnal yn hwyr iawn yn y broses o ddatblygu polisi. Roedd llawer o Asesiadau EG yn cydnabod y gallai polisi neu ymarfer effeithio ar grŵp yn gyffredinol ond ni ddangosodd sut y byddai'n effeithio ar fywydau pobl yn ymarferol. Nid oedd yr un o'r Asesiadau EG yr oeddem yn edrych arnynt yn ystyried sut mae gwahanol nodweddion gwarchodedig yn croestorri. Anaml y bydd Asesiadau EG yn ystyried sut mae nifer o benderfyniadau gwahanol yn cyfuno i effeithio ar grwpiau penodol. Hefyd, mae angen i wasanaethau cyhoeddus ymgysylltu'n well a chynnwys pobl sydd â nodweddion gwarchodedig a monitro'r gwir effaith ar bobl unwaith y bydd polisi neu newid yn cael ei gyflwyno.
Mae gwahaniaethu ac anghydraddoldeb yn parhau i effeithio ar ansawdd bywyd a chyfleoedd bywyd pobl yng Nghymru. Mae mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, MeToo a mudiadau cymdeithasol eraill wedi dod â materion gwahaniaethu ac anghydraddoldeb i amlygrwydd ym maes polisi a thrafodaeth gyhoeddus. Mae ein gwaith yn dangos bod enghreifftiau da o agweddau o'r broses o gynnal Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb o fewn cyrff cyhoeddus unigol. Fodd bynnag, mae'r hyn yr ydym wedi'i weld a'i glywed yn dweud wrthym ni fod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn tueddu i ddefnyddio eu Hasesiadau EG yn amddiffynnol. Yn rhy aml, maen nhw'n ymddangos fel ymarfer blwch ticio i ddangos bod y corff wedi meddwl am faterion cydraddoldeb rhag ofn herio, yn hytrach na chanolbwyntio ar gyfleoedd i hyrwyddo cydraddoldeb a chydlyniant. Mae fy argymhellion yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda phartneriaid i wella a diweddaru'r agwedd gyffredinol tuag at Asesiadau EG; a galw ar gyrff cyhoeddus i ymateb i adolygu eu dulliau eu hunain, rwyf hefyd yn disgwyl i'r rhai sy'n ymwneud â chraffu ddefnyddio'r adroddiad hwn i herio dull cyffredinol eu sefydliad tuag at Asesiadau EG ac ansawdd Asesiadau EG unigol a ddefnyddir i lywio penderfyniadau.