Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae cyfrifoldebau cynyddol yn golygu ei bod hi’n hanfodol bod gan gynghorau cymuned drefniadau rheolaeth ariannol a llywodraethu cadarn
Dylai cynghorau fod yn ymwybodol o’r canllawiau helaeth sydd ar gael iddynt i helpu i adnabod unrhyw wendidau ariannol.
Mae 735 o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru sydd â rolau hanfodol o ran cefnogi cymunedau cryf, bywiog a datblygu lleol. Mae eu gallu i wneud hyn yn dibynnu ar drefniadau rheolaeth ariannol a llywodraethu cadarn. Mae’r cynghorau cymuned hyn yn ddarostyngedig i system o atebolrwydd eang ac mae hynny’n ymgorffori adroddiadau cyhoeddus a chyfrifon blynyddol, yn ychwanegol at y cylch etholiadau arferol. Mae’r adroddiad hwn yn bwrw golwg ar rai o’r heriau y mae cynghorau cymuned yn eu hwynebu, a rhai o’r adnoddau sydd ar gael i helpu cynghorau i ymgodymu â’r heriau hynny.
Mae cynghorau tref a chymuned yn cael cyfrifoldebau cynyddol am bod awdurdodau unedol yn ceisio trosglwyddo asedau a gwasanaethau i gynghorau cymuned. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n bwysicach byth bod cynghorau cymuned yn sicrhau bod ganddynt systemau rheolaeth fewnol a rheolaeth ariannol a llywodraethu cadarn. Yn anffodus, mae ein hadroddiad ni’n dangos bod nifer o gynghorau’n dal i fethu â chyrraedd y safonau angenrheidiol.
Yn gynyddol, mae cynghorau wedi methu â chyflwyno ffurflenni blynyddol a baratowyd yn unol ag arferion priodol – gan arwain at gynnydd yn nifer y barnau archwilio amodol a gyhoeddir. Canfu ein hadroddiad ei bod hi’n fwyfwy anodd gwirio trafodiadau, oherwydd cofnodion cyfrifyddu annigonol, sy’n golygu nad yw cynghorau’n gallu dangos sut y gwnaed penderfyniadau a sut y sicrhawyd gwerth am arian. Mater arall sy’n arwain yn aml at gyhoeddi barn amodol yw bod cynghorau’n peidio â chyhoeddi gwybodaeth y mae’n ofynnol yn gyfreithiol iddynt ei chyhoeddi.
Yn ein hadroddiad, rydym yn amlinellu’r canllawiau sydd ar gael i gynghorau tref a chymuned. Fe gyhoeddodd Un Llais Cymru a Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol (SLCC) Ganllaw i Ymarferwyr sy’n rhad ac am ddim, sy’n disgrifio sut y gall cynghorau roi system o reolaethau mewnol ar waith, yn ogystal ag egluro’r broses archwilio. Ym mis Mehefin 2022, fe gyhoeddodd Un Llais Cymru, SLCC, a Llywodraeth Cymru becyn cymorth llywodraethu i gynghorau tref a chymuned. Mae’r pecyn cymorth wedi’i fwriadu i roi cymorth penodol i’r holl gynghorau adnabod ac ymdrin â bylchau a gwendidau yn eu trefniadau rheolaeth ariannol a llywodraethu.
Mae ein hadroddiadau’n dal i adnabod materion parhaus ar draws y sector. Mae angen cymryd camau priodol i fynd i’r afael â’r materion hyn er mwyn creu dyfodol cryfach a mwy atebol.
Mae ein gwaith archwilio’n dal i fod â rôl hanfodol o ran adnabod gwendidau mewn trefniadau llywodraethu a rheolaeth ariannol. Mae angen i gynghorau tref a chymuned ddysgu o’r heriau a godir yn ein hadroddiad a defnyddio’r canllawiau a’r cymorth sydd ar gael yn rhwydd iddynt.