Helpwch i lunio ein trawsnewidiad digidol fel Datblygydd Drupal

09 Tachwedd 2020
  • A ydych chi'n ddatblygydd Drupal uchel ei gymhelliant gydag agwedd arloesol at ddatrys problemau?

    A allwch chi weithio'n ailadroddol a llunio atebion digidol sy'n diwallu anghenion defnyddwyr ein gwefan?
    Rydym yn awyddus i benodi Datblygydd Drupal am gyfnod penodol i'n helpu i wneud nifer o welliannau i'n gwefan.
    Byddwch yn rhan o dîm cyfathrebu sydd wedi ennill gwobrau, yn gweithio'n agos gyda TG a rhannau eraill o'r sefydliad.
    Mae'r gwaith hwn yn rhan bwysig o raglen trawsnewid digidol ein sefydliad. Byddwch yn ein helpu i gyflawni newidiadau sy'n gwella sut rydym yn cyfathrebu ein gwaith ar lefel fyd-eang.
    Dyddiad cau: 14 Tachwedd 2019
    Mae gwybodaeth bellach am y cyfle cyffrous hwn yn y swydd ddisgrifiad [PDF 147KB agorir mewn ffenest newydd]