Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Bydd ein digwyddiad Arfer Da nesaf yn cael ei gynnal yn Stadiwn Dinas Caerdydd ar Mai 22ain.
Mae trefniadau llywodraethu da yn rhan hanfodol o'r ffordd mae sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu yn effeithiol ac yn darparu gwasanaethau sydd yn rhoi gwerth am arian ar gyfer pobl a chymunedau Cymru.
Mae Pwyllgorau Archwilio yn gonglfeini er mwyn cefnogi llywodraethu da. Gyda phwysau mawr ar gyllid y sector gyhoeddus ar hyn o bryd ac wrth edrych tua’r dyfodol, mae mwy o angen am arferion effeithiol a chael effaith gadarnhaol. Mae gan Bwyllgorau Archwilio rôl allweddol wrth gyflawni hyn. Mae’r digwyddiad yma yn gyfle i rannu profiadau, dysgu a rhwydweithio gyda chyfoedion ar draws y sector gyhoeddus yng Nghymru.
Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgorau Archwilio Prif Weithredwr / Uwch Dîm Rheoli Pennaeth Archwilio Mewnol / Rheolwr Archwilio Mewnol Pennaeth Cyllid / Swyddog Cyfrifeg Pennaeth Adnoddau
10.00am Lluniaeth a Chofrestru
10.30am Croeso
10.35am Prif Siaradwr Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru
10.40am Sut allwn ni atal methiant?
Paul Dossett, Pennaeth Llywodraeth Leol, Grant Thornton
Paul yw awdur ‘Preventing failure in Local Government’. Bydd yn trafod pwysigrwydd bod â dealltwriaeth glir o achosion cyffredin methiannau, yn ogystal a sut mae’n yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i awdurdodau lleol eraill, cyrff llywodraeth leol ac ar gyfer llywodraeth ganolog er mwyn atal methiannau i’r dyfodol.
11.20am Egwyl
11.30am Gweithdy: Sut mae da yn edrych wrth ystyried pwyllgorau archwilio?
Cyfle i rannu ac i ddysgu gan gyfoedion mewn grwpiau dysgu bychain, gan drafod y cwestiwn ‘sut mae da yn edrych wrth ystyried pwyllgorau archwilio?’
12.30pm Cinio
13.30pm Gweithdy: Dadansoddiad Gwraidd: Beth yw dadansoddiad gwraidd a sut mae’n gweithio?
Tîm ymchwil a Datblygu, Archwilio Cymru
Dadansoddiad Gwraidd yw’r broses o ganfod yr hyn sydd wrth wraidd problemau er mwyn adnabod atebion addas. Bydd ein tîm Ymchwil a Datblygu yn eich tywys trwy astudiaeth achos fel enghraifft (Tramiau Caeredin) fydd yn galluogi’r rhai sydd yn cymryd rhan i ennill profiad o ddefnyddio’r dull Dadansoddi Gwraidd.
14.40pm Egwyl
14.50pm Trafodaeth Banel
Martin Veale, Cadeirydd Pwyllgor Archwilio Chwaraeon Cymru, Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Llywodraethiant Cyngor Merthyr Tydfil
Janet Wademan, Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Risg Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Hywel John, Cadeirydd Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd
Mike Usher, Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Trafodaeth banel wedi ei gadeirio gan Ann-Marie Harkin, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio, Archwilio Cymru. Bydd ein panel yn adlewyrchu ar brif themâu’r diwrnod gan roi sylw arbennig i’r heriau mawr sydd ar y gorwel. Hefyd, bydd cyfle i ofyn cwestiynau a chynnal trafodaeth.
15.30pm Clo
I gofrestru, llenwch ein ffurflen archebu ar-lein. Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd i gynrychiolwyr [agorir mewn ffenest newydd], gan ddweud wrthych sut rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses ymrestru.
Dosberthir cyfarwyddiadau ymuno mewn da bryd cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost wrth archebu lle i sicrhau y gallwn anfon manylion atoch.
Am fwy o fanylion am y digwyddiad, anfonwch e-bost at arferda@archwilio.cymru