Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Cyngor Ceredigion yn gwneud cynnydd cyflym wrth fynd i'r afael ag argymhellion gwasanaeth cynllunio Archwilio Cymru

14 Awst 2023
  • Mae adroddiad dilynol i adolygiad ar wasanaeth cynllunio Ceredigion gan Archwilio Cymru wedi canfod bod y Cyngor yn gwneud cynnydd cyflym wrth ddarparu gwelliannau i'r gwasanaeth.

    0 "News"
    

    Mae’r adroddiad yn dilyn adolygiad Archwilio Cymru ar wasanaeth cynllunio'r Cyngor yn 2021 a nododd wendidau hirsefydlog yn nhrefniadau llywodraethu Pwyllgor Rheoli Datblygu'r Cyngor.

    Gweithiodd archwilwyr yn agos gyda'r Cyngor i nodi meysydd ar gyfer sylw a gwella sydd wedi ei alluogi i symud yn gyflym i ymateb i nifer o argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol a'u rhoi ar waith.

    Mae'r archwiliad dilynol a gyhoeddir heddiw yn cydnabod y cynnydd y mae'r Cyngor wedi'i wneud, yn enwedig drwy gyflwyno sawl newid i'r trefniadau llywodraethu sy'n ategu ei Bwyllgor Rheoli Datblygu.

    Mae hefyd yn darparu argymhellion ychwanegol sy'n cynnwys mireinio prosesau a threfniadau arolygu safle i sicrhau bod y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn canolbwyntio ar geisiadau strategol bwysig.

    ,
    Mae'n galonogol gweld bod y Cyngor wedi ymateb yn adeiladol ac wedi cymryd camau cyflym wrth fynd i'r afael â'r argymhellion gwreiddiol ac wedi defnyddio'r cyfle i weithio'n agos gyda fy archwilwyr i ddechrau cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwaith cydweithrediadol ac adeiladol â chyrff archwiliedig. Rwy'n gobeithio y byddwn yn adeiladu ar y berthynas hon wrth i'r Cyngor barhau i weithredu ein hargymhellion a mireinio ymhellach weithdrefnau'r Pwyllgor Rheoli Datblygu a'i drefniadau llywodraethu. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru
    ,
    Gwelsom fel awdurdod cynllunio fanteision sylweddol mewn cyfnod byr drwy weithio'n agos ac ar y cyd gyda thîm Archwilio Cymru.  Nodwyd meysydd ar gyfer sylw a gwella yn gynnar yn y gwaith a gweithiodd archwilwyr yn agos gydag uwch swyddogion yr awdurdod i nodi'r llwybr cywir tuag at welliant.  Roedd y broses a ddilynwyd yn sicrhau bod pawb yn deall yr angen am welliant ond yn bwysicach sut y gellid cyflawni hyn mewn cyfnod byr o amser.  Cafwyd deialog rheolaidd ac agored gyda'r archwilwyr ac yna gwnaed gwelliannau cyflym gan yr awdurdod.  Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cydnabod ac yn diolch i'r archwilwyr am weithio mewn modd adeiladol gyda'r awdurdod.  Mae llwyddiant y trefniant gweithio hwn wedi darparu model ardderchog o gydweithio ar gyfer y dyfodol.  Roedd cyd-adeiladu cynllun gwella a model cyflawni sy'n mynd i'r afael â'r materion sylfaenol a nodwyd ar ddechrau'r rhaglen yn darparu'r canlyniadau mwyaf effeithiol posibl o fewn yr amserlenni byrraf. Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Adolygiad Dilynol o’r Gwasanaeth Cynllunio - Cyngor Sir Ceredigion

    View more