Cyfarwyddwr yn cipio Gwobr Arwain Cymru

09 Tachwedd 2020
  • Mae Ann-Marie Harkin wedi ennill un o Wobrau Arwain Cymru. Yn ôl y beirniaid, mae’r wobr yn adlewyrchiad o’i ‘gweledigaeth glir’ a’i gwaith o ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr cyllid proffesiynol yn y sector cyhoeddus.

    Derbyniodd Ann-Marie y gydnabyddiaeth yn y categori ‘Merched mewn Arweinyddiaeth’ mewn seremoni yng Ngwesty’r Hilton yng Nghaerdydd heddiw.
    Mae’r wobr yn adlewyrchu gwaith arloesol Ann-Marie o ran dysgu a datblygu, sy’n cynnwys sefydlu cynllun hyfforddiant newydd ar draws Cymru – syniad y bu iddi ddatblygu ei hun.
    Mae’r cynllun yn rhan annatod o ail-siapio Swyddfa Archwilio Cymru, wrth i’r sefydliad geisio recriwtio hyd at 12 o hyfforddeion bob blwyddyn ar gontractau pedair blynedd.
    Bydd yr hyfforddeion ar y cynllun yn mynd ar secondiad sylweddol i ran arall o sector cyhoeddus Cymru yn ystod eu contract hyfforddi, er mwyn iddynt dderbyn profiad ehangach na’r hyn y gall un sefydliad ei ddarparu. Dyma’r tro cyntaf i rywbeth fel hyn gael ei wneud yng Nghymru. Bydd y secondiadau’n cychwyn ym mis Medi 2016.
    Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol a Phennaeth yr Adran Archwilio Ariannol, Anthony Barrett:
    “Dyma wobr haeddiannol i unigolyn â gweledigaeth ac sy’n gweithio’n galed iawn. Mae Ann-Marie yn teimlo’n angerddol dros wasanaethau cyhoeddus yn ogystal â denu, ysbrydoli a datblygu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr cyllid proffesiynol. Mae hi’n gwbl ymwybodol o’r ffaith fod yr hyfforddeion hyn yn allweddol wrth adeiladu sector cyhoeddus llwyddiannus a chynaliadwy i bobl Cymru.”
    Ar ôl ennill, dywedodd y Cyfarwyddwr Archwilio Ariannol Ann-Marie Harkin: 
    “Dwi wedi fy synnu ac wrth fy modd derbyn y wobr yma. Mae ennill yn y categori Merched mewn Arweinyddiaeth yn anrhydedd gwirioneddol ac rwy’n ddiolchgar i’m holl gydweithwyr sy’n gweithio mor galed er mwyn fy helpu i sicrhau fod y dull newydd hwn o ddysgu a datblygu yn troi’n realiti."