Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae cael rhaglen archwilio strategol, deinamig ac o ansawdd uchel yn ffocws allweddol i'n strategaeth
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Ond er mwyn i goedwigaeth yng Nghymru barhau i wella mae heriau o hyd i'w olynydd, dywed yr Archwilydd Cyffredinol
Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi dilyn argymhellion archwiliadau blaenorol ac wedi datblygu blaenoriaethau clir a phriodol. Mae hefyd wedi gwella ei brosesau craidd megis caffael a rheoli grantiau a risgiau, ac mae bellach yn gwneud cynnydd da wrth gyflawni disgwyliadau ei gwsmeriaid pren masnachol. Fodd bynnag, mae bylchau cynllunio mewn meysydd fel cynllunio gofodol, cynllunio'r gweithlu a chynllunio ariannol yn llesteirio cynnydd, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Canfu adroddiad heddiw fod Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth ddarparu cyfeiriad corfforaethol cliriach. Dengys y canfyddiadau fod blaenoriaethau strategol clir y Comisiwn wedi'u hategu'n gadarn gan ddiwylliant corfforaethol cryfach lle ymddengys fod staff yn unedig a hynny ar sail cyfeiriad corfforaethol a ddeellir yn glir a'u bod yn deall eu rôl eu hunain wrth gyflawni amcanion y Comisiwn yn well.
Ond er mwyn i goedwigaeth yng Nghymru barhau i wella mae heriau o hyd i'w olynydd, dywed yr Archwilydd Cyffredinol.
Ym mis Ebrill 2013, bydd swyddogaethau Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn trosglwyddo i gorff newydd, sef Adnoddau Naturiol Cymru. Felly gohiriwyd sawl penderfyniad allweddol a disodlwyd rhai cynlluniau hirdymor gan fesurau byrdymor. Er enghraifft, rhoddodd y Comisiwn y gorau i'w fwriad i ddatblygu cynllun gofodol ffurfiol cynhwysfawr er mwyn asesu tasgau â blaenoriaeth gan benderfynu eu hadolygu ar sail achosion unigol yn lle hynny. Mae hyn hefyd wedi effeithio ar allu'r Comisiwn i ragweld yr adnoddau ariannol a'r adnoddau staff y bydd eu hangen i gyflawni ei amcanion.
Erys rhai agweddau ar reoli'r broses o gynhyrchu a gwerthu pren yn wan. Nid yw'r Comisiwn wedi datblygu ei gydnerthedd mewn perthynas â'r risg y bydd incwm o bren yn gostwng, ac mae'r cyllid a gafodd gan yr UE wedi lleihau yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Yn 2007-08, cynhyrchodd y Comisiwn £14.6 miliwn o incwm o ffynonellau eraill, ond erbyn 2010-11, roedd hyn wedi lleihau i £5.8 miliwn. Mae'r methiant hwn i arallgyfeirio incwm wedi golygu bod y Comisiwn mewn sefyllfa fregus iawn o ran gostyngiadau mewn prisiau pren.
Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i Adnoddau Naturiol Cymru eu rhoi ar waith, gan gynnwys:
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw: Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi gwneud cynnydd amlwg ers i ni gyflwyno ein hadroddiad cyntaf yn 2008 ond erys heriau sylweddol ar gyfer ei olynydd, Adnoddau Naturiol Cymru. Mae angen i'r sefydliad newydd sicrhau, wrth ddatblygu ei brosesau busnes craidd a'i ffyrdd o weithio, ei fod yn adeiladu ar y cryfderau a welwyd gennym yn rhai o brosesau'r Comisiwn, a'i fod yn ymdrin â'r gwendidau a welwyd gennym mewn meysydd eraill. O ystyried yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, bydd angen i Adnoddau Naturiol Cymru ddatblygu ei ffynonellau incwm fel y gall wrthsefyll yn well unrhyw ostyngiadau mewn prisiau pren.
Nodiadau i Olygyddion: