Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Bwrdd Iechyd yn gwneud cynnydd da i fynd i'r afael ag argymhellion er gwaethaf y pandemig, yn ôl adroddiad ar y cyd

18 Mai 2021
  • Ym mis Tachwedd 2019, canfu Adolygiad ar y Cyd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru, nifer o wendidau sylfaenol yn nhrefniadau llywodraethu’r Bwrdd Iechyd mewn perthynas ag ansawdd y gofal a diogelwch cleifion a gwnaed 14 o argymhellion.

    Mae ein hadroddiad ar y cyd, a gyhoeddwyd heddiw (18 Mai), yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn y 14 o argymhellion gwreiddiol. Rydym wedi ystyried yr effaith y mae pandemig COVID-19 wedi'i chael ar allu’r Bwrdd Iechyd i ymateb i’r argymhellion, ond o ystyried y diffygion sylfaenol a nodwyd yn 2019, roedd yn bwysig nodi’r cynnydd y mae’r Bwrdd Iechyd wedi ei wneud. Gwnaethom gynnal gweithgareddau casglu tystiolaeth tebyg i’r rhai yn ein hadolygiad blaenorol. Yn unol â’r gofynion parhaus i gadw pellter cymdeithasol a’r cyfyngiadau ar ein gwaith archwilio ac arolygu ar y safle ar adeg y gwaith maes, bu'n rhaid cwblhau ein gwaith o bell.

    Drwy ein gwaith, gwnaethom ganfod bod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd sylweddol i fynd i’r afael â nifer o’r argymhellion er gwaethaf yr heriau y mae wedi'u hwynebu wrth ymateb i’r pandemig.

    Gwelsom fod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd ar lefel strategol a gweithredol er mwyn sicrhau bod mwy o bwyslais ar ansawdd, diogelwch cleifion a risg. Mae trefniadau i graffu ar ansawdd a diogelwch cleifion ar lefel sefydliadol wedi gwella hefyd.

    Mae’r ffordd y caiff digwyddiadau, pryderon a chwynion eu rheoli wedi gwella ac mae'r Bwrdd Iechyd wedi cymryd camau cadarnhaol i wella diwylliant sefydliadol a dysgu. 

    Mae’n amlwg bod yr her o ymateb i'r pandemig wedi atal cynnydd mewn rhai meysydd, gan olygu nad yw rhai camau gweithredu wedi’u cwblhau mor gyflym â’r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol. Mae hyn yn golygu bod gwaith i'w wneud o hyd ym mhob un o'r meysydd lle nodwyd argymhellion yn 2019.

    Ceir rhagor o fanylion am y cynnydd a wnaed yn erbyn argymhellion unigol yn ein hadroddiad ar y cyd.

    ,
    Yn wyneb y pandemig, mae'r Bwrdd Iechyd wedi gwneud llawer o waith i fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn 2019. Mae mwy o bwyslais ar ansawdd, diogelwch cleifion a risg ynghyd â chryn ymrwymiad, ysgogiad a brwdfrydedd ymhlith y staff ac awydd clir i wneud pethau'n iawn. Mae angen cynnal yr egni hwn er mwyn ymgorffori'r gwaith a wnaed hyd yma, ac adeiladu arno. Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
    ,
    Mae adroddiad dilynol heddiw yn cydnabod y gwaith pwysig y mae'r Bwrdd Iechyd wedi'i wneud i fynd i'r afael â'r pryderon a nodwyd gennym mewn perthynas â llywodraethu a diwylliant sefydliadol yn ôl yn 2019. Mae'r camau gweithredu a gymerwyd yn golygu y dylai'r Bwrdd Iechyd fod mewn sefyllfa well nawr i nodi unrhyw broblemau a all godi o ran ansawdd a diogelwch gofal y cleifion, ac ymateb iddynt. Fodd bynnag, mae mwy o waith i'w wneud o hyd ac mae'n bwysig y cynhelir y momentwm yng nghyd-destun yr heriau ehangach a fydd yn ein hwynebu wrth i ni ddechrau adfer yn sgil y pandemig. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru
    ,

    Nodiadau i Olygyddion

    • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae'n gyfrifol am archwilio'n flynyddol y mwyafrif o'r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £21 biliwn o gyllid y mae Senedd Cymru yn pleidleisio arno bob blwyddyn. Caiff elfennau o'r cyllid hwn eu trosglwyddo o Lywodraeth Cymru i GIG Cymru (dros £8 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
    • Mae annibyniaeth archwilio'r Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Caiff ei benodi gan y Frenhines ac nid yw ei waith archwilio yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd na rheolaeth gan Senedd Cymru na'r llywodraeth.
    • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gorff corfforedig sy'n cynnwys Bwrdd statudol â naw aelod sy'n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill i'r Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn gweithredu fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu'r Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori Archwilydd Cyffredinol, mewn perthynas â'r gwaith o arfer ei swyddogaethau.
    • Archwilio Cymru yw'r enw ambarél ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol yng Nghymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae Archwilio Cymru yn nod masnach cofrestredig, ond nid yw'n endid cyfreithiol ynddo'i hun.
    • Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yw'r arolygiaeth a'r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru. Rydym yn arolygu gwasanaethau GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau i amlygu meysydd sydd angen eu gwella.
    • Bydd yr adroddiad llawn ar yr adolygiad ar gael ar wefannau AGIC ac Archwilio Cymru: https://agic.org.uk/ [agorir mewn ffenestr newydd] / https://archwilio.cymru/
    • Bydd fersiwn Gymraeg ar gael ar y ddwy wefan.
    • O ganlyniad i bandemig COVID-19, bu'n rhaid cwblhau'r gwaith maes ar gyfer yr adolygiad hwn o bell, yn unol â’r gofynion parhaus i gadw pellter cymdeithasol a’r cyfyngiadau ar ein gwaith archwilio ac arolygu ar y safle.
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu Ansawdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: Crynodeb o'r cynnydd a wnaed yn erbyn argymhellion

    View more