Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Blwyddyn heriol a llwyddiannus i Archwilio Cymru

21 Gorffennaf 2022
  • Gan ddefnyddio trefniadau gweithio hyblyg, llwyddom i gyflawni rhaglen waith lawn ar gyfer 2021-22.   

    Rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2021-2022.

    Mae’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon hwn yn rhoi crynodeb o’r cynnydd a wnaethom o ran cyflawni’r rhaglenni gwaith archwilio a nodir yn ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2021-22, ochr yn ochr â’n datganiadau ariannol a datganiadau atebolrwydd.

    Mae detholiad o astudiaethau achos wedi’u cynnwys yn yr Adroddiad i roi mwy o ddealltwriaeth o rai o’r prosiectau yr ydym wedi bod yn ymwneud â nhw a’r cyfraniad y mae’r gwaith hwnnw wedi’i wneud.

    Mae ein gwaith arfaethedig wedi’i rannu’n fras yn ddwy adran – cyflawni archwiliadau a chynnal y busnes.

    O ran ein gwaith archwilio, mae 2021-22 wedi bod yn flwyddyn heriol gydag effaith barhaus pandemig COVID-19 yn dal i achosi rhai ymyriadau, fodd bynnag, drwy ddefnyddio trefniadau gweithio hyblyg roeddem yn gallu cyflawni rhaglen waith lawn o safon uchel.

    Rydym wedi gweld rhywfaint o newid eleni o ran cynnal y busnes, gan gynnwys adolygiad sylweddol o deithio a chynhaliaeth. Cwblhawyd y mater sensitif hwn ym mis Ionawr 2022 yn dilyn ymgynghoriad helaeth ar gynigion amgen a ddatblygwyd gan grŵp gorchwyl a gorffen staff. Rydym hefyd wedi bod yn ystyried y ffordd orau o ddefnyddio ein hystâd yn y dyfodol. 

    Yn fwy cyffredinol, datblygwyd strategaeth bum mlynedd ar gyfer Archwilio Cymru, i ddarparu canolbwynt tymor hirach ar gyfer ein gwaith na’r Cynlluniau Blynyddol y mae’n statudol ofynnol i ni eu cynhyrchu. Gyda chynlluniau busnes manylach wrth ei gwraidd, bydd y strategaeth yn cyd-dynnu ac yn llywio ein gwaith dros y blynyddoedd nesaf, gan ganolbwyntio’n benodol ar ansawdd ac effaith

    Gyda’r adolygiad o’n cynllun teithio a chynhaliaeth yn gefndir ynghyd â’r heriau o weithio o bell estynedig, nid oeddem yn synnu o weld bod boddhad gweithwyr wedi gostwng rhywfaint yn ein harolwg pobl blynyddol. Er bod llawer yn y sefydliad yn teimlo bod Archwilio Cymru wedi rheoli effaith COVID yn dda, mae’n amlwg bod meysydd o fywyd sefydliadol angen ein sylw. O ganlyniad, gwnaethom gytuno i ganolbwyntio ar gyfres o gamau gwella ledled y sefydliad dros y flwyddyn i ddod.

    ,
    Rydym wrth ein bodd ein bod, yn ystod blwyddyn heriol, wedi llwyddo i gyflawni ein rhaglen lawn o waith archwilio ar gyfer 2021-22 i safon o ansawdd uchel. Mae ein llwyddiant wrth barhau i gyflawni archwiliadau amserol o ansawdd da yn adlewyrchu ymdrech fawr ar y cyd gan ein staff a chydweithwyr mewn cyrff cyhoeddus i fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio a hyblygrwydd. Rwy’n ddyledus i holl staff Archwilio Cymru am eu proffesiynoldeb, eu gwaith caled a’u hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus drwy gydol y 12 mis diwethaf. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,
    Dros y deuddeg mis diwethaf, gwnaethom barhau i fonitro’n fanwl sefyllfa COVID-19 sy’n esblygu a gweithredu yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Parhaodd ein blaenoriaethau o ran cynnal y busnes i gynnwys addasu a lleihau ymyrraeth ar ein gwaith archwilio a’r gwaith o arfer ein swyddogaethau gwasanaeth corfforaethol, gan hefyd sicrhau ein bod yn trin ein pobl yn deg, gan eu cadw’n ddiogel a monitro eu llesiant. Un o’r blaenoriaethau ar gyfer 2021-22 oedd cwblhau adolygiad o’n cynllun teithio a chynhaliaeth. Rydym yn ddiolchgar i’n cydweithwyr yn yr Undebau Llafur am weithio gyda’r rheolwyr drwy drafodaethau ffurfiol ddiwedd 2021, ac rydym yn falch o adrodd bod staff wedi ymrwymo i’r trefniadau newydd erbyn hyn. Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru, Lindsay Foyster
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021-22

    View more