Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Rydym am gasglu straeon pobl 16 i 25 oed am eu profiadau o ran cyrchu a defnyddio'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
Rydym yn cynnal astudiaeth i edrych ar y modd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n strategol i gynllunio gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed.
Bydd yr astudiaeth yn gofyn 'beth yw'r prif wersi i'w dysgu o ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull integredig o wella lles pobl ifanc?’ Bydd yn edrych i weld pa mor gydgysylltiedig yw'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl ifanc, a hynny ledled pob rhan o'r Llywodraeth.
Yn rhan o'r astudiaeth, rydym wedi lansio arolwg byr wedi'i anelu at bobl 16 i 25 oed. Nod yr arolwg yw casglu profiadau pobl ifanc o gyrchu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, p'un a yw'r profiadau hynny'n dda neu'n ddrwg, a cheisio darganfod y canlynol:
Bydd yr arolwg yn parhau trwy gydol misoedd Chwefror a Mawrth. Byddwn yn defnyddio'r straeon a gasglwn i nodi gwelliannau i gyfoethogi profiadau pobl ifanc o'r gwasanaethau cyhoeddus.
Gallwch lenwi arolwg byr, dienw trwy ymweld â'n tudalen Facebook [opens in new window] lle ceir dolenni i'r arolwg a rhagor o wybodaeth.
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas: “Mae'r gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru dan bwysau, ac mae'n hanfodol bod y gwasanaethau iawn yn bodoli, a bod y bobl y mae arnynt angen y gwasanaethau hynny yn gallu eu cyrchu. Mae angen i sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus ar hyd a lled Cymru sicrhau bod yr hyn y maent yn ei ddarparu yn cael ei werthfawrogi gan ddefnyddwyr gwasanaethau, a'i fod yn gosteffeithiol. Hoffwn annog cynifer o bobl ifanc â phosibl i ddweud eu dweud am y gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu cael.”