Archwilydd Cyffredinol yn annerch cynghorau tref ar bwysigrwydd llywodraethu da

09 Tachwedd 2020
  • Yn ddiweddar fe anerchodd Archwilydd Cyffredinol Cymru gynghorwyr lleol a thref yn y gynhadledd hyfforddi ar y cyd rhwng y Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol ac Un Llais Cymru.

    Yn y gynhadledd, oedd â’r teitl ‘Ensuring strong and effective financial governance in Community and Town Councils’, a gynhaliwyd ar 15fed o Fai yn Venue Cymru, siaradodd yr Archwilydd Cyffredinol am yr angen am well llywodraethu a'r rôl y bydd Swyddfa Archwilio Cymru’n ei chwarae wrth helpu cynghorau tref a chlercod i fodloni eu gofynion cyfrifyddu blynyddol.

    Prif Araith [PDF 91KB Agorir mewn ffenest newydd]

    Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas:

    Torrwch drwy unrhyw ran o wasanaethau cyhoeddus Cymru a dylech weld llywodraethu da wedi’i stampio drwyddynt!