Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Angen gweithredu ar frys mewn cynghorau cymuned i fynd i'r afael â gweithgarwch anghyfreithlon a llywodraethu gwael

12 Hydref 2021
  • Darganfuwyd gwariant anghyfreithlon a threfniadau llywodraethu annigonol yng Nghynghorau Cymuned Llanarmon, Magwyr gyda Gwndy, Llanpumsaint a Sili Larnog yng Nghymru

    0 "News"
    

    Mae diffygion sylweddol o ran rheolaeth ariannol a threfniadau llywodraethu mewnol mewn pedwar cyngor wedi arwain at wariant anghyfreithlon yn un o'r cynghorau, o dros £86,000, a chostau archwilio uwch, yn ôl adroddiadau er budd y cyhoedd a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

    Mae gwendidau systemig o ran llywodraethu a rheolaeth fewnol yng Nghyngor Cymuned Llanarmon. Canfu ein harchwiliad fod y Cyngor wedi gweithredu'n anghyfreithlon wrth benodi ei Glerc/Swyddog Ariannol Cyfrifol, cyfethol aelodau, dyfarnu grantiau a chontractio ar gyfer cyflenwi gwasanaethau. Gwnaethom nodi hefyd fod y Cyngor wedi methu â chydymffurfio â gofynion deddfwriaethol amrywiol gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â pharatoi, cymeradwyo a chyflwyno ei gyfrifon blynyddol ar gyfer yr archwiliad.

    Yn ystod 2018, roedd y ffaith bod perthynas yr aelodau a’i gilydd wedi chwerwi yng Nghyngor Cymuned Magwyr a Gwndy effeithio ar sut yr oedd yn gweithredu ei fusnes, ym maes gwneud penderfyniadau, rheolaeth ariannol a rheolaeth fewnol. Methodd y Cyngor â dilyn ei reolau gwasanaethau caffael mewnol ei hun gan arwain at wariant anghyfreithlon o dros £62,793, ac mae ei brosesau ar gyfer penodi staff yn wael gan arwain at wariant anghyfreithlon o £22,337.

    Er bod y gofynion ar gyfer y cyfrifon blynyddol a'r archwiliad yr un fath ar gyfer pob cyngor cymuned ledled Cymru, mae Cyngor Cymuned Llanpumsaint wedi methu â chyflwyno cyfrifon blynyddol i'w harchwilio. Mae'r diffyg cydymffurfio hwn yn cynnwys Clerc y Cyngor yn gwrthod cyflawni ei gyfrifoldebau a rhwystro'r broses archwilio. O ganlyniad, mae cost yr archwiliad wedi cynyddu'n sylweddol.

    Mae gan Gyngor Cymuned Sili a Larnog hanes hir o wrthdaro rhwng aelodau ac mae'n ymddangos ei fod bellach yn gamweithredol. Yn ystod 2018-19, methodd y Cyngor â chymryd camau digonol i fodloni ei hun bod ei drefniadau llywodraethu yn effeithiol.

    Mae'r adroddiadau'n gwneud nifer o argymhellion i'r cynghorau, gan gynnwys adolygu:

    • Rheoliadau ariannol
    • Trefniadau llywodraethu
    • Recriwtio a chyflogaeth
    • Ymddygiad aelodau
    • Cydnabyddiaeth ariannol annibynnol
    • Datgelu taliadau
    ,
    Dim ond rhai o'r problemau mewn pedwar cyngor cymuned yr wyf wedi dod o hyd iddynt yw’r diffygion sylweddol mewn llywodraethu, rheolaeth ariannol, tryloywder archwilio a threfniadau annigonol i sicrhau gwerth am arian. Mae’r materion hyn yn tynnu sylw at wendidau difrifol yn y Cynghorau Cymuned, yn tanseilio ffydd y cyhoedd ac wedi arwain at wastraff arian cyhoeddus. Galwaf ar bob cyngor Tref a Chymuned i gymryd sylw a dysgu o'r gwersi pwysig yn yr adroddiadau hyn fel bod cymunedau yng Nghymru yn cael y gwasanaethau a'r sicrwydd y maen nhw yn briodol yn eu haeddu. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Cyngor Cymuned Sant Harmon

    View more
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Cyngor Cymuned Magwyr gyda Gwndy

    View more
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Cyngor Cymuned Llanpumsaint

    View more
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Cyngor Cymuned Sili a Larnog

    View more