Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Ar 17 Mai, cynhaliwyd cynhadledd ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (y Ddeddf) [bydd yn agor mewn ffenestr newydd]
Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, a mynd ati i atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a'r newid yn yr hinsawdd. Mae'r Ddeddf yn unigryw i Gymru, ac mae'n cynnig cyfle enfawr i wneud newid cadarnhaol parhaus i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Daeth uwch-weithwyr proffesiynol o sefydliadau ledled Cymru ynghyd yn y gynhadledd, a'r rheiny'n sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus ac a gwmpesir gan y Ddeddf.
Cynhaliwyd y gynhadledd yn dilyn cyhoeddi adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, 'Myfyrio ar Flwyddyn Un: Sut mae cyrff cyhoeddus wedi ymateb i ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015?', sef darn o waith rhagarweiniol a wnaed ganddo cyn cychwyn ar yr archwiliadau ffurfiol y mae'n rhaid iddo eu cyflawni o dan y Ddeddf. Roedd y gynhadledd yn gyfle i gyfathrebu canfyddiadau'r Archwilydd Cyffredinol mewn rhagor o fanylder â chyrff cyhoeddus, rhannu'r dysgu o brosiectau archwilio peilot yr Archwilydd Cyffredinol a gynhaliwyd yn ystod 2017-18, ac archwilio'r camau nesaf ar gyfer y dyfodol.
Cyflwyniadau yn ystod y gynhadledd
Lawrlwythwch gyflwyniadau'r gynhadledd isod.
Lluniau
Edrychwch ar luniau a dynnwyd yn ystod y dydd ar ein tudalen Facebook, ac ewch ati i'w rhannu [bydd yn agor mewn ffenestr newydd].
Fideos
Gwyliwch araith Archwilydd Cyffredinol Cymru ar YouTube [yn agor mewn ffenestr newydd] a gwyliwch yr araith a roddwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ar YouTube [yn agor mewn ffenestr newydd].
Cofnodion gweledol
Edrychwch ar ein cofnodion [bydd yn agor mewn ffenestr newydd] gweledol a gasglwyd ar y diwrnod gan Eleanor Beer, ymarferydd gweledol [bydd yn agor mewn ffenestr newydd].