Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar y cynnydd rydym wedi'i wneud hyd yn hyn tuag at gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb
Mae'r amcanion hyn wedi'u nodi yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer y cyfnod o bedair blynedd 2022 i 2026 [agorir mewn ffenestr newydd].
Trwy ein gwaith archwilio, gallwn chwarae rôl bwysig wrth annog newidiadau buddiol o ran cydraddoldeb, ac mae mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn un o'r pedair thema allweddol sy'n gyrru ein cyhoeddiad rhaglen waith flaengar Astudiaethau Cenedlaethol ar gyfer 2023-2026 [agorir mewn ffenestr newydd]. Gwnaethom gyflwyno nifer o astudiaethau yn ystod 2023-24 a oedd yn ymdrin ag ystyriaethau cydraddoldeb ac a amlygodd anghydraddoldebau yn ein cymdeithas.
Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom gynnal cyfres o asesiadau effaith o bolisïau ac arferion perthnasol Archwilio Cymru. Roedd yn galonogol gweld nad oedd yr asesiadau hynny yn nodi unrhyw botensial amlwg ar gyfer gwahaniaethu neu effaith niweidiol arall, ond serch hynny gwnaethant sawl argymhelliad pwysig ar gyfer gwella.
Gwnaethom hefyd adnewyddu ein gwefan yn fawr ac roeddem yn falch o gyflawni Safon Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth ar gyfer hygyrchedd.
Wrth edrych ymlaen, er ein bod yn falch o adrodd bod ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi lleihau'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, mae hefyd yn amlwg bod angen i ni barhau i ymgymryd â gwaith i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu ymhellach yn y tymor canolig i'r tymor hwy.