Sut y gall dulliau ymgysylltu gwahanol helpu i gynnwys y dinesydd yn y broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus

20 June 2017
  • Roedd y seminar hwn yn canolbwyntio ar y pwysigrwydd o ymgysylltu â dinasyddion a rhannu engreifftiau o sut y mae sefydliadau yng Nghymru wedi gwneud hyn, gan ddefnyddio dulliau gwahanol ac arloesol iawn.

    O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae'n ofynnol i gyrff cyhoeddus sicrhau eu bod yn ystyried effaith bosibl eu penderfyniadau ar bobl sy'n byw yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. Mae'n disgwyl iddynt wneud y canlynol:

    • gweithio gyda'i gilydd yn well
    • cynnwys pobl sy'n cynrychioli amrywiaeth ein cymunedau
    • ystyried y tymor hir yn ogystal â chanolbwyntio ar y presennol
    • cymryd camau i geisio atal problemau rhag gwaethygu – neu hyd yn oed eu hatal rhag codi yn y lle cyntaf.

    Gan fod cymaint o gymunedau amrywiol yng Nghymru, mae'n bwysig ein bod yn addasu'r ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu â grwpiau mewn modd priodol. Nid oes un ateb i bawb o bell ffordd!

    Nid oes un ffordd benodol o ymgysylltu; y nod yw dileu'r rhwystrau rhwng pobl sy'n darparu gwasanaethau a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau.

    Er bod sawl enghraifft wych i'w cael o wasanaethau cyhoeddus yn gweithio ochr yn ochr â'r dinesydd wrth gynllunio a darparu gwasanaethau, ceir rhai lle mae gwasanaethau yn dal i gael eu darparu o safbwynt darparwyr un gwasanaeth. Gall dinasyddion brofi dulliau gweithredu gwahanol a thameidiog o ganlyniad i hyn, a all arwain at:

    • ymyriadau anghyson a chroes
    • canlyniadau gwael ar gyfer defnyddiwr y gwasanaeth
    • gwastraffu adnoddau gwerthfawr a gwerth gwael am arian

    At bwy oedd y seminar wedi'i hanelu  

    Roedd y seminar hwn ar gyfer rheolwyr sector cyhoeddus a'r trydydd sector a swyddogion yn y rolau canlynol:

    • Cynllynwyr prosiect 
    • Datblygwyr polisi
    • Rheolwyr cyfathrebu
    • Rheolwyr sy'n ymgysylltu â dinasyddion 

    Cyflwyniadau

    1. Sut y gellir defnyddio chwaraeon fel ffordd o ymgysylltu [PDF 1.1MB Agorir mewn ffenest newydd] - Carwyn Young/ Tom Overton, Chwaraeon Cymru a Charly Wathan, Gemau Stryd Cymru
    2. Prosiect Phoenix - Elaine Williams a Graham Jenkins, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Sarah King, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gillian Roberts, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru 
    3. Parc Peulwys - Shane Hughes/ Chris Partridge, Cadwch Gymru'n Daclus ac Matt Stowe/ Owen Veldhuizen, Cartrefi Conwy
    4. Defnyddio technolegau digidol i ymgysylltu â chymunedau [PDF 1.8MB Agorir mewn ffenest newydd] - Marc Davies, Cymunedau Digidol Cymru
    5. Ailystyried eich cyfathrebu yn oes y cyfryngau cymdeithasol - Helen Reynolds, Social for the People

    Cyfryngau cymdeithasol 

     

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details