Mae'r tirlun gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn newid yn barhaus ac mae angen i sefydliadau roi mwy o bwyslais ar hyblygrwydd, eu gallu i addasu a safbwynt hirdymor yn eu trefniadau rheoli ariannol. Mae hyn yn golygu bod yn ymatebol, yn gadarn ac yn gydnerth.
Mae'r rhan fwyaf o sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn rheoli eu cyllid yn fedrus ac yn gweithredu mewn modd darbodus. Fodd bynnag, o ystyried bod bylchau ariannu sylweddol wedi'u rhagweld ar gyfer y dyfodol, sut y gallant barhau i fod yn ariannol gydnerth?
Mae angen cynllun!
Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi adroddiad: Cynllunio arbedion mewn cynghorau yng Nghymru a ganolbwyntiodd ar ddatblygu, gweithredu a monitro cynlluniau arbedion mewn cynghorau yng Nghymru. Yn gyffredinol, daethom i'r casgliad bod trefniadau cynllunio ariannol tymor canolig yn gyffredinol effeithiol, ond bod diffygion o ran cynllunio arbedion yn golygu bod risg na fydd rhai cynghorau yn cyflawni'r arbedion angenrheidiol.
Mae Cynllun Ariannol Tymor Canolig ystyrlon yn broses hanfodol sy'n cefnogi cydnerthedd a chynaliadwyedd ariannol sefydliad. Mae'n bosibl mai'r Tîm Cyllid fydd yn llunio'r Cynllun hwn, ond rhaid i'r gwneuthurwyr penderfyniadau a'r rheini sy'n darparu gwasanaethau fod yn berchen arno.
At bwy cafodd y gweminar ei hanelu
Roedd y seminar hon wedi'i hanelu at aelodau a swyddogion yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys:
- Penaethiaid Gwasanaethau
- Rheolwyr Gwasanaeth/Gweithredol sy'n gyfrifol am gyflawni gweithredol ar raddfa fawr
- Deiliaid cyllideb
- Swyddogion Adran 151 a Rheolwyr Cyllid
- Aelodau'r Cabinet â chyfrifoldebau am y gyllideb a chynllunio fel rhan o'u portffolio