Mae Safonau Agored yn ei gwneud yn haws i systemau gydweithio â'i gilydd a chyfnewid data. Gallant helpu gwasanaethau cyhoeddus i integreiddio, i gydweithredu ac i gymryd golwg hirdymor ar gaffael a darparu gwasanaethau cyhoeddus. Dyma dair o'r pum ffordd o weithio sy'n ganolog i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Mae adrannau Technoleg Gwybodaeth gwasanaethau cyhoeddus yn draddodiadol wedi prynu meddalwedd berchnogol. Gall fformatau allbwn aneglur y systemau hyn yn aml olygu bod sefydliadau yn glwm wrth gontractau. Mae'r fformatau hyn hefyd yn ei gwneud yn anodd i systemau integreiddio, a fydd yn hanfodol wrth i wasanaethau cyhoeddus ddod ynghyd o dan nawdd Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus.
Mae gwasanaethau cyhoeddus wedi adeiladu eu seilwaith dros amser. Mae caffael wedi'i seilio ar yr hyn sy'n cyd-fynd â systemau etifeddol. Mae hyn yn aml wedi arwain at brynu atebion gor-gymhleth a brynnir yn bennaf oherwydd yr angen sefydliadol, gyda gweithrediad a darparu gwasanaeth yn ystyriaeth eilaidd. Petaem ni'n dechrau o'r newydd, a fyddem yn dechrau o'n sefyllfa bresennol?
Edrychodd y weminar hon ar:
- Beth yw Safonau Agored
- Sut y gallwn fabwysiadu Safonau Agored
- Y manteision amlwg
- Y camau nesaf
Wrth adael y weminar hon, roedd gan y rhai sy'n cymryd rhan well ddealltwriaeth o sut y gellir rhoi Safonau Agored ar waith, yn ogystal â gallu eu cysylltu â'u gwaith a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol.
At bwy cafodd y gweminar ei hanelu
Roedd y gweminar hon wedi'i hanelu at staff sector cyhoeddus a thrydydd sector yn y swyddi canlynol:
- Cynrychiolwyr Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
- Uwch Reolwyr
- Aelodau Etholedig, Aelodau Anweithredol ac Ymddiriedolwyr
- Caffael
- Technoleg Gwybodaeth
- Rheolwyr Prosiectau Cyfalaf