Shared Learning Seminar
Gwella arweinyddiaeth a pherchnogaeth ddigidol

Dangosodd y seminar hon y rôl bwysig sydd gan dull digidol wrth gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus effeithiol sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Hwn oedd yr ail mewn cyfres o ddigwyddiadau ar gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus yn ddigidol mewn partneriaeth â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Y Lab, Llywodraeth Cymru ac Arfer Da Cymru.
 
Yn aml, gall y dull digidol wella gwasanaeth cwsmeriaid fel bod gwasanaethau'n bodloni disgwyliadau'r defnyddiwr. Gall hefyd wella elfen weinyddol gwasanaeth, gan ryddhau staff i ganolbwyntio ar anghenion y defnyddiwr gwasanaeth er mwyn darparu gwasanaeth mwy effeithiol ac effeithlon.
 
Mae awdurdod a gwybodaeth yn aml yn cael eu gwahanu mewn sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus. Fe wnaeth y seminar hon grymuso'r mynychwyr i arwain yr agenda newid yn eu sefydliadau. Edrychodd ar yr hyn sydd eisoes ar gael yn ddigidol, yn rhannu arfer da ac yn edrych ar gymhwyso egwyddorion digidol yn ehangach. Nid yw'n ymwneud â symud gwasanaethau i lwyfannau digidol, ond yn hytrach ystyried sut gellir ailddylunio gwasanaethau fel eu bod wedi'u hintegreiddio'n well, yn cael eu cyflwyno'n ddoethach ac o safon uwch. Mae hyn yn gofyn am newid mewn meddylfryd a gwella sgiliau staff gwasanaethau cyhoeddus er mwyn cyflwyno gwasanaethau'n wahanol.
 
Gan ystyried darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, fe wnaeth y seminar hon cynnig cyfle pwysig. Galluogodd gwasanaethau cyhoeddus i ddod at ei gilydd er mwyn ailddylunio gwasanaethau y mae'r defnyddiwr gwasanaeth a'r boblogaeth ehangach yn ganolig iddynt. Mae'n bwysig bod sefydliadau'n dechrau meddwl am sut gall y dull digidol gyfrannu i'r saith nod llesiant a amlinellir yn y ddeddf.

Ar gyfer pwy oedd y seminar ar eu cyfer

Ar gyfer y seminar hon, fe wnaethom dylunio personâu cyfranogwyr gyda'r Lab, sydd wedi'u seilio ar ei waith ar y Gronfa Arloesedd Digidol. Roedd cyfranogwyr yn un o'r canlynol:
  • Staff, aelodau etholedig ac aelodau anweithredol sydd am i'w staff gyd-dynnu â gweledigaeth a chyfeiriad y sefydliad
  • Staff sydd am i'w gwasanaethau fod yn fwy ystwyth ac ymatebol i anghenion defnyddwyr
  • Staff sy'n gweithio ar draws ffiniau gwasanaethau cyhoeddus
  • Staff sy'n meddwl y gall y dull digidol gael ei ddefnyddio i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus
  • Staff sy'n chwilio am lwybrau cyflymach a mwy effeithlon ar gyfer llawer o'r gwasanaethau y mae'r cyngor yn eu cyflwyno
  • Staff sy'n ystyried sut y gall diwygiadau digidol arwain at arbedion effeithlonrwydd ac arbedion eraill
  • Pobl sy'n gwneud penderfyniadau sydd am gysylltu â'r bobl sy'n gwybod sut mae gwneud i drawsnewid digidol ddigwydd a'u cefnogi â'r lefel iawn o fuddsoddiad

Cyflwyniadau

  1. Sbarduno newid digidol [PDF 1.68MB Agorir mewn ffenest newydd] - Stephen Lisle a Dyfrig Williams, Swyddfa Archwilio Cymru

Cyfryngau cymdeithasol

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan